Edrychwch ar dudalen y digwyddiad ar Facebook, yma: bit.ly/3HhRQ1G
Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach a chamu i dymor y gwanwyn ar Ddydd Sadwrn 25 Mawrth!
Bydd stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant theatr stryd gwych; bydd y dref yn dod yn fyw wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd. Os ydych chi’n chwilio am ychydig o oriau allan gyda’r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl?
Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach, CF82 7AB, lle bydd y ffyrdd ar gau.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
#CroesoCaerffili #DewisLleol #UKSPF
Abbotts Events Limited – Wood Fired Pizza |
Ally’s Confectionary |
Bow Addict |
Caerynys Shed Jewellery |
Cardiff & Vale Cats Protection Branch |
CCBC – Blackwood Miners Institute |
Chris Noonan |
Coleg Y Cymoedd – Ystrad Mynach |
Crystal Crysalis |
Cwm Deri Vineyard |
Dinky Donuts |
Falconry UK |
Fine Food Lands Ltd |
Forever Fudge |
Gelligaer Community Council |
Gem Trading |
Gower Doughnut Co. |
Hancox’s Pies |
Hwyl Spirits |
Karen’s Bookshop in Partnership with Usborne |
Lili Wen Welshcakes |
Little Grandma’s Kitchen |
Nuts About Cinnamon |
Ogi |
Olive Tree Treats |
Pasithea |
Rae’s Grace Cakes |
Sarah Claire Crafts |
Sian’s Emporium |
Signore Twister |
Stagecoach Bus |
The Slime Factory |
Tracey’s Funky Faces |
Unison Caerphilly |
Whippy Ices Ltd |
Williams Brothers Cider |
Ystrad Mynach Seventh-Day Adventist Church |