Gŵyl Caws Caerffili 2024
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Canol Tref Caerffili CF83 1JL
01443 866390 digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Ymunwch a'r digwyddiad Facebook swyddogol Gŵyl Caws Caerffili 2024!
DWEUD CAWS! Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod Gŵyl Caws Caerffili yn dychwelyd ar dydd Sadwrn 31 Awst a ddydd Sul 1 Medi! Paratowch am benwythnos bendigedig o gerddoriaeth fyw, bwyd gwych a llawer o hwyl! Eleni, rydyn ni'n gwneud y digwyddiad yn fwy gyda ffair fwy, neuaddau bwyd, ardal bicnic a hyd yn oed mwy o stondinau! Oherwydd y gwaith datblygu parhaus yng Nghastell Caerffili, yn anffodus nid yw'r Caws Mawr yn gallu digwydd yn ei fformat arferol yn 2024, ond peidiwch â phoeni, gan fod Gŵyl Caws Caerffili sy'n dychwelyd eleni yn argoeli rhoi hwb MAWR! Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerffili, CF83 1JL, ac y man glaswelltog y tu ôl i Gastell Caerffili. Bydd digonedd o stondinau bwyd, crefft a diod gyda chwrt bwyd poeth arbennig ac ardal yfed ym Maes Parcio’r Twyn. Yng nghanol y dref, bydd nifer o ardaloedd cerddoriaeth, yn ogystal â llwyfan canolog ym Maes Parcio’r Twyn gyda phrif artistiaid ‘Big Mac's Wholly Soul Band’ ar dydd Sadwrn a ‘Slipped Disco’ ar dydd Sul. Bydd tafarndai a bistros allweddol yng nghanol y dref yn creu ardaloedd yfed awyr agored i ymwelwyr allu eistedd ac ymlacio wrth fwynhau'r adloniant. Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd. Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Caws Caerffili, ewch i'r wefan swyddogol neu wefan Facebook swyddogol. Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.Parcio a Thrafnidiaeth
Cliciwch ar y llun isod am fersiwn PDF o fap parcio.
Parcio
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:- Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
- Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
- Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
- Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
- Ysgol Martin Sant, Hillside, CF83 1UW
Rheseli Beiciau
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi'u nodi'n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae gorsaf drenau Caerffili ger safle’r digwyddiad, gyda threnau i Fargod a Chaerdydd ac yn ôl bob 15 munud, a threnau i Rymni ac yn ôl bob awr. Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol. Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau. ❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.Gwybodaeth teithio bwysig: Mae disgwyl i fysiau redeg yn lle trenau ar reilffordd Rhymni ddydd Sadwrn 31 Awst a ddydd Sul 1 Medi, a allai effeithio ar eich taith i Ŵyl Caws Caerffili ac yn ôl. Byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd hyn a chaniatáu amser ychwanegol wrth deithio neu wneud trefniadau teithio arall os oes angen.*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â'r sefydliad hwn.
Ras y Caws Caerffili

Ffon: 07919 627426 E-bostiwch: meredro@caerphilly.gov.uk
Rhestr Stondinau

Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau llawn!
Rhaglen Gerddoriaeth

Cliciwch yma i weld y rhaglen gerddoriaeth lawn!
Dydd Sadwrn 31 Awst | Dydd Sul 1 Medi | |
Prif Lwyfan y Tŵr Cam – Maes Parcio'r Twyn |
|
|
Llwyfan y Foneddiges Werdd – Heol Caerdydd / The Kings Arms |
|
|
Llwyfan Ffos y Castell – Y tu ôl i Gastell Caerffili / Heol Cilgant |
|
|
Rhaglen Adloniant

Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant yn lawn!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau Canol Trefi Cyngor Caerffili, Haf 2024
Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau'r Haf 2024 ni. Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.


