Os hoffech ddod â grŵp o ymwelwyr ar fws i’r digwyddiadau canlynol, llenwch y ffurflen isod. Os hoffech fynd i fwy nag un o’r digwyddiadau, bydd angen i chi lenwi’r ffurflen am bob digwyddiad rydych am fynd iddo.
Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili – Dydd Sadwrn 12 Ebrill 2025
Gŵyl Caws Caerffili – Dydd Sadwrn 30 a dydd Sul 31 Awst 2025
Marchnad Nadolig Caerffili – Dydd Sadwrn 29 Tachwedd 2025
Gwybodaeth bwysig am barcio bysiau ym maes parcio Heol y Cilgant
This car park has a limited number of coach bays and is located a 5 minutes walking distance from the event site. Bookings will be made on a first come first serve basis. Coaches can drop off and pick up at the event site if preferred, before parking in the car park for the day.
Dim ond hyn a hyn o leoedd i fysiau sydd yn y maes parcio hwn, ac mae 5 munud ar droed i safle’r digwyddiad. Y cyntaf i’r felin fydd yn cael y lleoedd. Gall bysiau ollwng a chasglu ymwelwyr wrth safle’r digwyddiad cyn parcio yn y maes parcio am y diwrnod.
Mae angen talu ac arddangos yn y maes parcio hwn (gweler y bwrdd talu ac arddangos ar ôl cyrraedd).
Gwybodaeth bwysig am faes parcio a theithio Gŵyl y Caws Mawr:
Mae’r maes parcio a theithio 5 munud o safle’r digwyddiad mewn car neu fws. Gall bysiau ollwng a chasglu ymwelwyr wrth safle’r digwyddiad o hyd, cyn parcio yn y maes parcio a theithio am y diwrnod. Gall bysiau barcio am ddim.
GDPR Privacy Policy for Visit Caerphilly
Map Parcio Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili
Map Parcio Gŵyl Caws Caerffili
Map Parcio Marchnad Nadolig Caerffili