Amdanom ni

Amdanom ni

Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili – Ymunwch â ni heddiw …

Grŵp o fusnesau twristiaeth lleol sydd wedi ymrwymo i gynnig gwyliau neu daith fusnes ddelfrydol i ymwelwyr yw Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili. Mae’r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth fanwl am holl aelodau’r grŵp, yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol am atyniadau eraill a llety yn y rhanbarth.

Prif swyddogaeth Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili yw dod â gweithredwyr twristiaeth ynghyd, gan ffurfio un llais i atgyfnerthu’r diwydiant twristiaeth a chynyddu nifer yr ymwelwyr â bwrdeistref sirol Caerffili yn y pen draw.

Fel aelod o’r gymdeithas, byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Eich tudalen eich hun ar wefan Croeso Caerffili, gan gynnwys erthygl olygyddol a lluniau
  • Cymorth gyda chysylltiadau cyhoeddus a chyfleoedd i ymwneud â’r cyfryngau ac ymgyrchoedd marchnata
  • Hyfforddiant cymorthdaledig am ddim
  • Gwybodaeth am gael grantiau a chyllid
  • Cyfleoedd i rwydweithio yn ystod cyfarfodydd a digwyddiadau Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili
  • Pwynt cyswllt ar gyfer pob agwedd ar dwristiaeth.
  • Hyn oll am ddim ond £50 am aelodaeth ddwy flynedd. (Gellir dod yn aelod unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn)

I gael rhagor o wybodaeth, lawrlwythwch PDF o Gymdeithas Dwristiaeth Caerffili. Fel arall, os hoffech drafod ymuno â Chymdeithas Dwristiaeth Caerffili, ffoniwch 01443 866394 neu e-bostiwch waltesa@caerffili.gov.uk

 

Essential information

Address
Address
Tredomen House, Tredomen Park, Ystrad Mynach,
CF82 7WF
Contact Name
Contact
Sally Walters