The Tour of Britain 2023

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Canol Tref Caerffili, CF83 1JL CF83 1JL
  01932 831485   info@thetour.co.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

The Tour of Britain

Taliadau

AM DDIM

Lleoliad

Mae'r Tour of Britain yn dychwelyd i’r Fwrdeistref Sirol ddydd Sul 10 Medi! Bydd y digwyddiad chwaraeon o safon fyd-eang yn dod i ben yng nghanol tref Caerffili yn dilyn 8 cam dwys o rasio ledled y Deyrnas Unedig. Gyda'r cyffro'n cael ei ddarlledu ar deledu byw (ITV4) - bydd y digwyddiad yn arddangos Caerffili ar lwyfan y byd wrth i'r beicwyr ddod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol drwy Nelson, pasio trwy Lanbradach a chwblhau dwy lap o fynydd Caerffili cyn croesi'r llinell derfyn o flaen y castell eiconig. Dyma'r manylion llawn (gan gynnwys manylion am gau ffyrdd) i alluogi trigolion i gynllunio ymlaen llaw. Bydd beicwyr yn dod i mewn i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd yr A4054, yn mynd i'r dde ar y gylchfan i ymuno â'r A472 (Heol Pontypridd) tuag at Nelson. Amserau yn fras: Mae'r system cau ffyrdd dreigl yn dod i ben yn y man cyfarfod rhwng Heol Pontygwindy a chyffordd Castle Street. I gael rhagor o wybodaeth am The Tour of Britain, ewch i'r wefan swyddogol. Cliciwch YMA i ymuno â'r digwyddiad Facebook swyddogol.

Cau Ffyrdd


Map Parcio

Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol: - Maes parcio Station Terrace (talu ac arddangos) - Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili (am ddim) - Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell (am ddim, hyd at 3 awr) 🚴 Mae nifer o raciau beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi'u nodi'n borffor ar y map. Gellir dod o hyd i raciau beiciau yng Nghyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili, yn ogystal â ledled Heol Caerdydd a thu allan i Morrisons.