May Contain Food May Contain You yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495227206   BMI@caerphilly.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Lleoliad

Am docynnau, ewch yma!

Ymunwch â chwmni arobryn Protein am noson hynod ddifyr gyda ffrindiau a theulu. Yn trawsnewid eich lleoliad lleol chi’n fwyty, rydych chi’n cael eich gwahodd i ddod â phryd o fwyd i’w rannu tra byddwch chi’n eistedd wrth fyrddau addurnedig i wylio, blasu a threulio cymysgedd chwareus o ddawns, theatr a chanu sy’n digwydd o’ch cwmpas chi. Bydd eich gwesteiwyr swynol, aml-dalentog yn denu eich serch chi â dawnsio a monologau digrif. Gyda chyfnodau o egwyl i wneud pethau gan gynnwys pobi cacen a mentro mewn cystadleuaeth raffl, byddy gymanfa odidog hon yn siŵr o’ch gwneud chi chwerthin a mwynhau’r berthynas ryfeddol sydd gennym ni oll gyda bwyd. Dewch â bwyd i chi’ch hun neu fwyd i’w rannu: Yn rhan o’r noson, mae aelodau’r gynulleidfa’n cael eu hannog i ddod â rhywfaint o fwyd maen nhw wedi’i wneud, ei dyfu neu ei brynu i’w fwyta neu ei rannu, neu eitem i’w rhoi i fanc bwyd lleol. Cymeradwyaeth “Lip-smacking fusion of song, dance, mime and sweet aperitif tomatoes.” ★★★★ The Guardian “It brings a whole new meaning to the term: ‘supper theatre’…a yummy night out!” ★★★★ The Stage “An absorbing smorgasbord of food-related ideas and issues, containing humour, pathos and sensuality.” ★★★★ Dance Tabs