
Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Mae Parti Traeth Rhisga yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal o 10am tan 4pm ar ddydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Mehefin ym Mharc Tredegar, sydd wedi’i leoli oddi ar Tredegar Street yng nghanol tref Rhisga!
Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn gartref i draeth anferth yn llawn cadeiriau cynfas a theganau traeth i ddiddanu pawb. Bydd sioeau Pwnsh a Siwan yn cael eu cynnal yn rheolaidd drwy gydol y dydd a bydd detholiad o reidiau ffair i bobl ifanc, ynghyd ag amrywiaeth o atyniadau i ddiddanu pawb!
Bydd nifer fach o stondinau yn gwerthu losin, brownis, a phice ar y maen, yn ogystal â diodydd poeth ac oer, tatws ar ffurf troell, ‘Dinky Donuts’ a’r fan hufen iâ holl bwysig! Beth am fentro i’r dref a #DewisLleol… dewch â sglodion neu ddanteithion picnic yn ôl i’w mwynhau ar y traeth a chefnogi’r manwerthwyr lleol… gwyliwch yr asynnod ond peidio â cheisio ymuno â’r amser bwydo!
Mae digon o fannau agored yn y parc ar gyfer picnic hefyd, felly, dewch â’ch blancedi a’ch danteithion gyda chi ac aros am y diwrnod! (Sylwer: ni chaniateir alcohol yn y digwyddiad.)
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
❗️ Sylwer: mae croeso mawr i gŵn ddod i Barti Traeth Rhisga, ac eithrio ardal y traeth am resymau iechyd a diogelwch. Er bod croeso i gŵn yn ein digwyddiadau, efallai y bydd y nifer fawr o bobl yn codi ofn ar rai cŵn, a all fod yn niweidiol i’w lles ac achosi iddyn nhw frathu. Mae perchnogion sy’n dod â chŵn i ddigwyddiad yn gwneud hynny ar eu menter ac atebolrwydd eu hunain.
Rhaglen Adloniant
Dyma rai o’r gweithgareddau ym Mharti Traeth Rhisga:
- Traeth anferth
- Reidiau ar gefn asynnod
- Reidiau ffair hwyl
- Stondinau bwyd, diod, crefft a wybodaeth
a MWY!
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Gwybodaeth Teithio a Parcio
Parcio Ceir
Mae parcio i’r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:
- Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
- Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
- Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP
Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym
mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaethau Trên
Gallwch chi gyrraedd safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o
orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.
- Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau’n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.
Gwasanaethau Bws
Mae safleoedd bysiau Eglwys y Bedyddwyr Moriah a Spar, yn Rhisga, yn union y tu allan i safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar.
- X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
- 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
- 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
- R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
- R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Risga ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Rheseli Beiciau
Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.
Rhestr Stondinau
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf Cyngor Caerffili 2025
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.