Helfa’r Pasg Bargod

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Canol tref Bargod, CF81 8QT

Dydd Sadwrn 21 Mawrth – Dydd Sadwrn 11 Ebrill 2026

Dewch draw i Helfa’r Pasg Bargod i geisio dod o hyd i’r holl gwningod pren sy’n cuddio yn y siopau! Byddwch chi’n derbyn dantaith am ddim am gymryd rhan a’r cyfle i ennill Wy Pasg.

Dewch i gasglu eich ffurflen gweithgaredd a map AM DDIM o Lyfrgell Bargod.

Mae’r gweithgaredd hwn yn rhedeg yn ystod oriau gweithredu arferol y siopau, felly gwiriwch oriau/diwrnodau agor wrth gynllunio’ch taith.

Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyda chymorth cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac mae’r Wyau Pasg wedi’u rhoi gan Gyngor Tref Bargod.

Gwybodaeth bellach

Lleoliad