
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn enillydd yng ngwobrau Tripadvisor Travellers’ Choice ar gyfer 2025
1 Awst, 2025
Amser darllen: 2m
Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch unwaith eto o groesawu Pride Caerffili a ddychwelodd i ganol tref Caerffili ddydd Sadwrn 5 Gorffennaf am ei drydedd flwyddyn lwyddiannus.
Er gwaethaf y tywydd gwlyb, daeth y gymuned allan yn llu i gefnogi’r digwyddiad gyda 10,378 o ymwelwyr yn mynd i mewn i safle’r digwyddiadau ym Maes Parcio’r Twyn a 19,127 o ymwelwyr yn archwilio Canolfan Siopa Cwrt y Castell, Ffos Caerffili a chanol ehangach y dref.
Dechreuodd y diwrnod gydag agoriad swyddogol gan y bocsiwr Olympaidd a phencampwraig y byd, Lauren Price MBE, sy’n dod o Ystrad Mynach ac yn parhau i fod yn ffigwr ysbrydoledig yn lleol a thu hwnt.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys Gorymdaith Pride liwgar a groesawodd bobl o bob cymuned, gan gynnwys busnesau ac elusennau, ac yna rhaglen fywiog o adloniant byw gyda Miss Tina Sparkle yn gweithredu fel cyflwynydd.
Mae Pride Caerffili bellach wedi dod yn ddigwyddiad sefydledig a hir-ddisgwyliedig yng nghalendr digwyddiadau’r Cyngor. Canmolodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y digwyddiad eleni, a dywedodd: “Roedd yn wych croesawu Lauren Price i agor Pride Caerffili 2025. Roedd yr egni trwy gydol y dydd yn anhygoel, ac roedd yn wych gweld cymaint o drigolion ac ymwelwyr yn dod at ei gilydd i gefnogi ein cymuned LHDTC+.”
Hoffen ni ddiolch i’n noddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner am eu cefnogaeth barhaus i’r digwyddiad.