
Mae’r Black Prince yn far a bwyty teuluol a agorodd yn 2024, wedi’i leoli yn Ynysddu, ym mhrydferthwch Cwm Sirhywi.
Yn cynnig digon o opsiynau bwyd a diod, gan gynnwys dewisiadau llysieuol/fegan a heb glwten, mae’r Black Prince yn lle gwych i fwynhau pryd i’r teulu a noson allan.
Mae’r Black Prince yn cynnwys sawl amwynder hamdden, gan gynnwys ardal chwarae ddiogel i blant, bwrdd pŵl, bwrdd darts, jiwcbocs a theledu chwaraeon, gan gynnwys Sky Sports a TNT Sports.
Ddim yn bell o Barc Gwledig Cwm Sirhywi a rhwng trefi Coed Duon a Rhisga, mae hefyd gan y Black Prince ardd gwrw wych, sy’n berffaith ar gyfer cael llymaid wrth ymgolli yn y golygfeydd lleol.