Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Cerddoriaeth, bwyd a hwyl – beth arall fyddech chi eisiau i groesawu’r gwanwyn?
Dewch draw i ganol tref Ystrad Mynach ddydd Sadwrn 28 Mawrth am ddathliad o’r gwanwyn!
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Coed Duon.
Parcio a Thrafnidiaeth

Parcio
Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:
- Yr Ysgol Lewis, CF82 7WW (am ddim)
- Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
- Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
- Lidl, CF82 8AA (am ddim am 1.5 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Lidl yn unig)
Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Gwasanaethau trenau
Mae Gorsaf Drenau Ystrad Mynach o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad ac mae’n gwasanaethu teithwyr sy’n teithio i’r lleoliadau canlynol ac ohonyn nhw:
• Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
• Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
• Caerdydd (bob oddeutu 10-20 munud)
• Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
Gwiriwch wefan Trafnidiaeth Cymru am amserlenni trenau.
❗️Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Gwasanaethau bysiau
Am newidiadau i lwybrau bysiau ar ddiwrnod y digwyddiad, gweler yr Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr ar waelod y dudalen hon.
Rheseli Beic
Gellir dod o hyd i raciau beic yn:
- Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
- Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
- Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
- Tesco, CF82 7DP
Rhaglen Adloniant
Mae rhai o’r adloniant a’r gweithgareddau a gewch chi yn Ffair y Gwanwyn, Bargood, yn cynnwys:
- Stondinau bwyd, diod a chrefft
- Adar ysglyfaethus gyda Falconry UK
- Peintio wynebau gyda Fab Faces
- Gweithdai crefft am ddim i blant gyda Creative Workshops for Children
- Reidiau ffair bleser gyda South Wales Fun Days trwy Eddies Funfair for Hire
- Masgotiaid Cwningod y Pasg
- Gweithgareddau yn Llyfrgell Ystrad Mynach
a rhagor!
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Rhestr Stondinau
30 o fasnachwyr bwyd, diod a chrefftau, gyda chacennau, bara, losin, cyffug, crystau, sawsiau, siytni, eitemau wedi’u gwneud â llaw a llawer mwy. Mwynhewch flasu diod neu ddwy gan y gwerthwyr gwirodydd, cwrw a seidr.
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau lawn!
Rhaglen Gerddoriaeth
Area 1 – Sgwâr Siloh
| Amser | Perfformiwr |
| 10.00am – 10.45am | Millie Bushell – The SINGING Lessons |
| 11.00am – 11.45am | James Jones |
| 12.00pm – 12.45pm | Mark Watkin Price |
| 1.00pm – 1.45pm | The Melody Makers |
| 2.00pm – 2.45pm | Cefn Hengoed Ladies’ Choir |
| 3.00pm – 4.30pm | Russell Jones |
Ardal 2 – Bedwlwyn Road
| Amser | Perfformiwr |
| 10.00am – 10.45am | Ophelia Pearce |
| 11.00am – 11.45am | Mark Watkin Price |
| 12.00pm – 12.45pm | Huw James |
| 1.00pm – 1.45pm | Andrew Darby |
| 2.00pm – 2.45pm | Secret Postal Society Official |
| 3.00pm – 4.30pm | James Jones |
Y Noddfa Synhwyraidd

Rydyn ni’n gwybod y gall torfeydd a llawer o sŵn fod yn llethol i rai pobl, felly, bydd ein Noddfa Synhwyraidd ar gael yn ein digwyddiadau yng nghanol trefi. Bydd hi ar gyfer y rhai sydd ag awtistiaeth ac anghenion niwroamrywiaeth eraill, neu unrhyw un sydd angen cael seibiant.
Yng Ngŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach, bydd y lle tawel ar gael yn Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB, rhwng 9:30am a 1pm.
Gweler rhestr wirio amgylcheddol ar gyfer digwyddiadau yma.
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Gwanwyn 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili




Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.