Cofrestrwch ar gyfer 10 Cilomedr Caerffili yma!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Disgwylir i Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows ddychwelyd yn 2026 ar ddydd Sul 10 Mai, ynghyd â Ras 2 Gilomedr Caerffili Bryn Meadows.
Gyda disgwyl i 3,000 o redwyr o bob gallu ddod i Gaerffili o bob cwr o’r wlad i fwynhau’r digwyddiad, rydyn ni’n disgwyl i’r digwyddiad yn 2026 fod yn fwy ac yn well.
Ac yntau’n digwydd yng nghysgod Castell Caerffili, bydd Ras 10 Cilomedr Caerffili Bryn Meadows yn dechrau ac yn gorffen ar Crescent Road. Bydd gan redwyr y cyfle i gael amser rhedeg da ar gwrs cymharol wastad gyda rhai pwyntiau bryniog. Bydd y cwrs yn arwain cyfranogwyr drwy ganol y dref, ac o’i chwmpas, gan fynd heibio tirnodau eiconig, gan gynnwys y cerflun enfawr o gaws a cherflun Tommy Cooper, ar hyd y ffordd, ac yn cynnig golygfeydd gwych o’r castell canoloesol, sy’n gefndir syfrdanol i’r digwyddiad blynyddol.
Cafodd record y cwrs ei gosod gan Dewi Griffiths yn 2024 a basiodd y llinell derfyn mewn 29 munud a 12 eiliad. Mae Rachel Felton yn dal record y cwrs benywaidd mewn amser o 34.59. Mae disgwyl i lawer o ymgeiswyr elitaidd a chystadleuol geisio cipio’r record ar gyfer 2026.
Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, wedi’i noddi gan Bryn Meadows Golf, Hotel and Spa ac wedi’i gefnogi gan Athletau Cymru a Chwaraeon Cymru.
Llwybr 2026

O’r man cychwyn yn Crescent Road, bydd y rhedwyr yn mynd ar hyd Heol Pontygwindy tuag at Gylchfan Pwll-y-pant, cyn parhau ar hyd yr A468 y tu ôl i Barc Lansbury. Yna, mae’r llwybr yn mynd ar hyd Van Road, cyn dychwelyd trwy ganol y dref ac yn ôl i Crescent Road ar gyfer y llinell derfyn.