Mae Memories, sydd wedi’i lleoli yng nghanol tref Ystrad Mynach, yn siop gardiau, crefftau ac anrhegion, sy’n gwerthu crefftau ac anrhegion unigryw gan ddylunwyr. Mae hefyd ganddyn nhw stoc helaeth o falŵns ac eitemau ar gyfer partïon.
Wedi’i leoli ar Penallta Road, mae Memories yn stocio amrywiaeth eang o eitemau ar gyfer pob achlysur, o benblwyddi i’r Nadolig a phopeth rhyngddyn nhw!
Mae Memories yn postio’r stoc sydd ar gael yn rheolaidd ar eu tudalen Facebook, felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n eu dilyn i weld y cynigion diweddaraf.
Oriau Agor
Dydd Llun – Dydd Gwener: 9:00am – 5:00pm
Dydd Sadwrn: 9:00am – 1:00pm
Dydd Sul: Ar gau