Parc Penallta

  Yn ymyl Ystrad Mynach CF82 7GN

Wedi’i gerfio o hen domen lo, mae Parc Penallta yn enwog fel y “lle gyda’r ceffyl”. Fel un o gerfluniau pridd ffigurol mwyaf y wlad, mae “Sultan y Merlyn Pwll Glo” yn denu ymwelwyr o bell sy’n dod i’w weld a’i edmygu. Ond mae mwy i Barc Penallta na Sultan yn unig, er mor drawiadol ydyw. Dringwch i’r Arsyllfa Uchel a’r wobr a gewch fydd golygfeydd panoramig ar draws cymoedd y De. Wrth i chi archwilio’r safle amrywiol hwn, mae’n anodd dychmygu mai tomen lo ddu oedd y lle hardd a thawel hwn dim ond 30 mlynedd yn ôl.

Mae Parc Penallta yn lleoliad i chi ei archwilio. O’r ardaloedd agored eang ar y gwastadedd i’r mannau mwy preifat yn rhan isaf y safle, mae yna drysorau cudd i chi eu darganfod. Cerddwch drwy ein twnnel helyg, gwylio acrobateg awyr gwas y neidr uwchben pwll dŵr, neu ddod o hyd i’r Cawr Cwsg, byddwch chi’n cael eich gwobrwyo’n fawr am eich ymdrechion.


Yr hyn sydd i’w weld a’i wneud

Sultan y Merlyn Pwll Glo

Nid yw unrhyw ymweliad â Pharc Penallta yn gyflawn heb weld Sultan y Merlyn Pwll Glo. Sultan yw nodwedd eiconig y parc. Yn 200 metr o hyd ac yn 15 metr o uchder, mae’n un o gerfluniau pridd ffigurol mwyaf y wlad. Rhoddodd y bobl leol yr enw Sultan iddo ar ôl un o’r merlod pwll glo “sioe” poblogaidd o Bwll Glo Penallta gerllaw. Yn y gwanwyn mae ei got yn drwch o friallu Mair, yn yr haf mae’n byrlymu i suo’r gwenyn a’r trychfilod. Gerllaw mae sawl pwll dŵr siâp carn; efallai ei fod yn carlamu o gwmpas yn y nos! Dewch i eistedd yn ei glust a mwynhau’r golygfeydd, neu ewch i’r olygfan, gerllaw, i gael golygfa uwch ben o Sultan y merlyn pwll glo.

Yr arsyllfa uchel

Am yr olygfa orau yn y parc, ewch i’r Arsyllfa Uchel, a’r wobr a gewch fydd golygfeydd panoramig 360° syfrdanol o’r cefn gwlad cyfagos. Yn ymdebygu i long ofod estron, mae’r 6 “adain” yn symbol o’r cymunedau lleol o amgylch y parc. Helpodd y cymunedau hynny i’w dylunio, ac mae pob un yn cynnwys delweddau o dreftadaeth leol, bywyd gwyllt naturiol a hamdden.

Bywyd gwyllt

Gyda’i gymysgedd o goetiroedd, pyllau dŵr a glaswelltiroedd mae Parc Penallta yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Cadwch lygad am sawl rhywogaeth o degeirianau ddechrau’r haf, llawer o fathau o weision y neidr a mursennod, ac archwilio’n hectarau o ddolydd blodeuog sy’n fyw o loÿnnod byw, gwenyn a thrychfilod eraill trwy gydol yr haf. Gallwch chi weld heidiau o’r nico yn bwydo ar gonau gwern a phennau hadau trwy gydol yr hydref, ac mae siawns dda o weld y gnocell werdd a choch y berllan ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn y gaeaf, gwyliwch wrth i heidiau o ddrudwy alw heibio i glwydo yn y gwelyau cyrs o amgylch Cors Nelson. Mae yna hefyd Warchodfa Natur Leol Cors Penallta, enghraifft fach o borfa rhos sy’n gyforiog o flodau gwyllt a thrychfilod.

Teithiau a llwybrau cerdded

Mae milltiroedd o lwybrau i’w dilyn ym Mharc Penallta, ond i’ch rhoi ar ben ffordd mae gennym dri llwybr cerdded clir o wahanol hyd. Maen nhw i gyd yn cychwyn o’r prif faes parcio:

Llwybr Sultan (1.6 cilomedr) – yn mynd heibio Sultan a rhai gweithiau celf. Llwybrau llwch cerrig a glaswelltog; yn gyffredinol ychydig yn donnog ond dau lethr byr, mwy serth.

Llwybr yr Ehedydd (2.1 cilomedr) – yn mynd heibio Sultan, golygfeydd da, yn cynnwys rhan dawelach o’r safle. Llwybrau llwch cerrig a glaswelltog; yn gyffredinol ychydig yn donnog ond dau lethr mwy serth.

Llwybr y Gnocell (3.7 cilomedr) – y gylchdaith fwyaf ar y safle gyda golygfeydd da. Llwybrau llwch cerrig a glaswelltog; dau lethr hir serth.

I’r rhai sydd am archwilio ymhellach i ffwrdd, mae’r parc yn cynnig man cychwyn gwych. Gall beicwyr ddefnyddio Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a beicio’n ddiogel i Barc Gwledig Cwm Sirhywi yn y dwyrain neu tuag at Barc Taf Bargoed a Thaith Taf yn y gorllewin.

A rhagor ..

Mae rhagor i chi ei ddarganfod. Cerddwch i Lyn Crannog, chwilio am ein cerfluniau, neu hedfan barcud yn yr Arena Digwyddiadau; cewch weld yn ddigon buan pam mae Parc Penallta yn lle mor boblogaidd i fwynhau’r awyr agored.


Cynllunio eich ymweliad

Lleoliad: Mae Parc Penallta ar gyrion gorllewinol Ystrad Mynach.

Sut i gyrraedd:

  • Mewn car – Dilynwch yr arwyddion brown i dwristaidd wrth gylchfan Tredomen ar yr A472 yn Ystrad Mynach. Mae’r brif fynedfa a’r maes parcio wedi’u lleoli hanner ffordd rhwng Ystrad Mynach a Gelligaer ar Penallta Road.
  • Ar fws – Gwasanaeth C16 Caerffili i Nelson, Gwasanaeth C17 Bargod i Gaerffili, a Gwasanaeth 7 Coed Duon i Bontypridd.
  • Ar feic – mae llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn rhedeg trwy ran isaf y parc.
  • Yr orsaf reilffordd agosaf – Ystrad Mynach (10 munud ar droed) a Hengoed (30 munud ar droed).

Oriau’r parc: Mae’r parc yn agored trwy gydol y flwyddyn. Mae mynediad i’r parc am ddim hefyd.

Meysydd parcio: Mae yna ddau faes parcio; mae’r prif faes parcio (oddi ar Penallta Road) wedi’i leoli’n fwy cyfleus ar gyfer rhan uchaf y safle, gan gynnwys Sultan y Merlyn Pwll Glo, yr Arena Digwyddiadau a’r Arsyllfa Uchel. Mae maes parcio Fforest, oddi ar yr A472, yn cynnig mynediad haws i ran isaf y safle ar gyfer y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sef Llyn Crannog. Noder bod y giât rwystr i faes parcio Fforest yn cau am 5.30pm (haf) a 4.30pm (gaeaf).

Pwyntiau mynediad eraill: Mae modd cyrraedd y parc ar droed neu ar feic ar hyd llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol o Nelson ac Ystrad Mynach. Mae mynedfeydd eraill wedi’u lleoli wrth Barc Busnes Tredomen, Buzzard Way yng Nghwm Calon ac amrywiaeth o lwybrau troed ar draws y caeau i’r gogledd o’r parc.

Swyddfa’r Parc a’r Ganolfan Addysg: Mae swyddfa fach yn y parc a Chanolfan Addysg er defnydd ysgolion a grwpiau sy’n ymweld â’r parc, wedi’u lleoli’n agos at y brif fynedfa oddi ar Penallta Road. Mae’r oriau agor yn amrywio yn dibynnu ar argaeledd staff.

Toiledau: Mae toiled compost ecogyfeillgar wedi’i leoli rhwng y prif faes parcio a’r Arena Digwyddiadau. Mae’r toiled ar agor o 9am i 5pm (haf) a 9am i 4pm (gaeaf). Mae toiledau hefyd ar gael yn y Ganolfan Addysg ond mae’n dibynnu a yw’r Ganolfan ar agor.

Byrddau picnic: Mae byrddau picnic wedi’u lleoli wrth yr Arena Digwyddiadau, Llyn Crannog.

Hygyrchedd: Mae modd rhannu Parc Penallta yn ddwy ardal ar wahân at ddibenion hygyrchedd. Mae’r ardal o amgylch y prif faes parcio a’r Arena Digwyddiadau yn gymharol wastad gyda llwybrau llwch carreg a all fod ychydig yn arw mewn mannau. Ar hyd gwaelod y cwm mae’r llwybr beicio a’r llwybr o faes parcio Fforest yn wastad ar y cyfan ac wedi’u tarmacio, er bod llethr yn arwain i fyny at y maes parcio. Yn cysylltu’r ddwy ardal mae’r llwybrau’n serth gydag arwyneb carreg garw. Mae yna hefyd nifer mawr o lwybrau glaswelltog a llwybrau ag arwyneb naturiol ledled y safle. Mae gennym ni gyn lleied â phosibl o bwyntiau rheoli mynediad, ac maen nhw i gyd yn addas ar gyfer sgwteri symudedd, ar wahân i’r rhai ar hawliau tramwy cyhoeddus sy’n arwain i’r tir fferm cyfagos. Mae meinciau wedi’u gosod yn rheolaidd o amgylch yr Arena Digwyddiadau ac ar hyd Llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Gwybodaeth bellach

Lleoliad