Paratowch at awyrgylch da, stondinau lleol, a gweithgareddau llawn hwyl ym Mharc Eco Cefn Fforest.
Mae Ffair yr Haf yn ôl!
Ar ôl llwyddiant gwych Ffair yr Haf y llynedd, ni all Cyfeillion y Parc Eco aros i’ch croesawu’n ôl am ddiwrnod llawn hwyl arall ym Mharc Eco Cefn Fforest!
Dewch draw ar ddydd Sadwrn 8 Awst rhwng 11.00am a 3.00pm am ddiwrnod o hwyl i’r teulu gyda rhywbeth at ddant pawb.
Mwynhewch stondinau lleol, gweithgareddau i bawb o bob oed, bwyd a diod, hufen iâ, raffl, a llawer mwy – i gyd yn amgylchedd hardd y Parc Eco.
Mynediad am ddim – mae croeso i bawb!
Ychydig o bethau i’w nodi:
• Dewch ag arian parod – mae stondinau, lluniaeth a rhai gweithgareddau yn derbyn arian parod yn unig.
• Dim ond hyn a hyn o leoedd parcio sydd ar gael yn y stryd, felly, byddai cerdded, olwyno, beicio, rhannu ceir neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei werthfawrogi’n fawr.
• Rydyn ni’n annog gwisg ffansi a bydd gwobr am y wisg orau!
Ni all Cyfeillion y Parc Eco aros i’ch gweld chi yno am ddiwrnod cymunedol gwych arall!
Croeso i gŵn! Cadwch gŵn ar dennyn, os yn bosibl.