Heddiw, datgelodd y Tour de France lwybr llawn 2027, a fydd yn cynnwys cymal tri yng Nghymru, rhwng y Trallwng a Chaerdydd ddydd Sul 4 Gorffennaf.
Dyma’r cam nesaf tuag at ddigwyddiad hanesyddol Grands Départs 2027, wrth i Brydain ddod y wlad gyntaf y tu allan i Ffrainc i gynnal dechrau’r Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift yn yr un flwyddyn, wrth i’r rasys ddechrau yng Nghaeredin a Leeds, yn y drefn honno.
Yn ogystal, cafodd lleoliad y sbrintiau ar bum cymal ar y ffyrdd ym Mhrydain eu cadarnhau heddiw, gyda Llandrindod (Powys) yn cynnal y cymal sbrint canolradd ar gymal tri, wedi’i leoli ar yr A483 sy’n mynd i mewn i’r dref ffynhonnau hanesyddol. Mae map rhyngweithiol manwl o gymal Cymru, sy’n dangos lleoliad y sbrint a’r wyth dringfa wedi’u categoreiddio, bellach i’w weld ar y dudalen bwrpasol ar gyfer cymal tri yma.
Ochr yn ochr â rhagor o fanylion am holl gymalau Prydain, cafodd y llwybr ei ddatgelu am y tro cyntaf ar gyfer treial amser tîm 18 cilomedr o hyd ar gyfer y Tour de France Femmes avec Zwift, yng nghanol Llundain, ddydd Sul 1 Awst. Dyma’r treial amser tîm cyntaf erioed yn hanes ras y menywod.
Dywedodd Paul Bush, Rheolwr Gyfarwyddwr, Grand Départ Grande-Bretagne 2027, “Mae cael y Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift yn dechrau ym Mhrydain yr haf nesaf yn anhygoel, ac yn foment hanesyddol. Mae’r llwybrau hyn yn dangos pa mor ysblennydd fydd y cymalau y bydd yr Alban, Cymru a Lloegr yn eu darparu. Bydd treial amser tîm y menywod yn foment mor gofiadwy, gan basio trwy galon Llundain, a gorffen yn y Mall – y cyntaf o’i fath yn hanes modern y ras.”
Cafodd rôl Prydain yn rasys 2027 ei dangos yn ystod cyflwyniad swyddogol heddiw yn y Palais des Congrès ym Mharis, gyda ffilm yn cynnwys cerdd bwrpasol gan y bardd perfformio arobryn, Sophia Thakur. Cafodd hon ei dangos am y tro cyntaf ochr yn ochr â sesiwn holi ac ateb gyda’r Gwir Anrhydeddus Douglas Alexander, Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Llywodraeth y Deyrnas Unedig; Stephen Flynn, Aelod o Senedd yr Alban, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Twristiaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth yr Alban; a Heledd Fychan, Aelod o’r Senedd, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Heledd Fychan, Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru, “Mae cael Cymru ar lwybr y Tour de France 2027 yn anrhydedd aruthrol ac yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i’n cenedl. Ar 4 Gorffennaf, bydd llygaid y byd beicio yn troi at Gymru, wrth i feicwyr adael y Trallwng ac anelu am Landrindod, lle bydd torfeydd yn ymgynnull ar gyfer y sbrint, cyn mynd drwodd i ddringfeydd anodd cymoedd de Cymru, gan rasio drwy Ferthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Chaerffili i orffeniad cyffrous yn ein prifddinas. O’r trefi marchnad i’r cymoedd ac ymlaen i Gaerdydd, bydd y cymal hwn yn arddangos y golygfeydd trawiadol, y croeso cynnes a’r angerdd dros chwaraeon sy’n gwneud Cymru yn lle mor arbennig. Rydw i’n gwybod y bydd cymunedau ledled y wlad yn dod at ei gilydd i ddathlu’r achlysur hanesyddol hwn, a byddwn i’n annog pawb i gymryd rhan a manteisio i’r eithaf ar y cyfle anhygoel hwn i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feicwyr o Gymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd Cyngor Caerffili, “Rydyn ni’n falch iawn o gael cyfle i groesawu’r digwyddiad chwaraeon byd-eang hwn i Fwrdeistref Sirol Caerffili yr haf nesaf. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu cystadleuwyr elît o bedwar ban byd, a fydd yn rasio trwy ein trefi a’n pentrefi cyn mynd i’r afael â’r ddringfa eiconig i fyny Mynydd Caerffili.”
Y Grands Départs fydd pumed ymweliad y Tour de France â Phrydain, a bydd yn dechrau er ei hynt tair wythnos o hyd yng Nghaeredin ddydd Gwener 2 Gorffennaf, gyda thri chymal drwy’r Alban, gogledd-orllewin Lloegr a Chymru, cyn llwybr fydd yn gwyro tua’r nen yn Morvan a’r Alpau cyn arwain y beicwyr i Mende ac ymlaen i’r ornest dyngedfennol yn y Pyreneau.
Wedyn, bydd y Tour de France Femmes avec Zwift yn ymweld â Phrydain am y tro cyntaf, gan gychwyn yn Leeds ddydd Gwener 30 Gorffennaf, i adleisio atgofion o Grand Départ ysblennydd y dynion yn 2014. Bydd y tri chymal ym Mhrydain yn dod i ben gyda threial amser tîm yn Llundain, a chafodd ei ddatgelu bydd y ras gyffredinol yn arwain y peloton yr holl ffordd i lethrau’r Massif Central a’r Puy de Dôme eiconig lle bydd y frenhines yn cael ei choroni.
Bydd pob un o’r chwe chymal o’r ddau Grands Départs yn cael eu darlledu’n fyw ar deledu am ddim yn y Deyrnas Unedig ar Five, ochr yn ochr â darllediadau byw ar TNT Sports, a fydd yn darlledu rasys 2027 yn gyfan.
Am ragor o wybodaeth, ac i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Grands Départs 2027, ewch i: letourgb.com.