Paratowch i weld cestyll Cadw yn dod yn fyw gydag atyniadau newydd epig a digwyddiadau anhygoel!
*FFLACH NEWYDDION* – Mae antur yn aros yng Nghastell Caerffili, gyda Drysfa Gilbert a Ffau’r Dreigiau bellach ar agor!
Mae’r gaer fwyaf yng Nghymru wedi dod yn fwy a hyd yn oed yn well gyda gosod dau atyniad teulu newydd.
Mae’r trawsnewidiad epig yn dathlu 750 mlynedd o’r cadarnle canoloesol, gan ddarparu i archwilwyr y castell hyd yn oed mwy o brofiadau na ellir eu colli ar y safle i ddweud “diolch” mawr am eu cariad parhaus a’u cefnogaeth i’r safle.
Mae hyn oll yn rhan o ymgyrch Cadw, Cestyll Byw!, a buddsoddiad o £9.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru i wella profiad ymwelwyr yn safleoedd hudolus Cymru dros y tair blynedd nesaf.
I ddarganfod mwy am Ddrysfa Gilbert, Ffau’r Dreigiau a gweithgareddau eraill ar y safle, edrychwch ar wefan Cestyll Byw!