Busnesau Caerffili yn Dathlu Dydd Gŵyl Dewi

Wrth i Gymru paratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth yn ystod cyfyngiadau symud lefel 4, mae dal digon o gyfle i arddangos y gorau sydd gan Gaerffili i’w gynnig. Bob blwyddyn, mae grwpiau o bob cwr o’r gymuned yn cofleidio eu gwreiddiau Cymreig a choffáu’r diwrnod gyda digwyddiadau arbennig ac nid yw 2021 yn eithriad. Er bod y wlad dan gyfyngiadau symud, nid oes modd rhwystro cariad ac angerdd tuag at Gymru.
Cymerwch ran mewn gweithgareddau’n ddiogel gartref a bod yn rhan o ddathliad digidol am pedwar diwrnod llawn pethau da i chi gan Croeso Cymru o 26 Chwefror i 1 Mawrth; dilynwch #GwylDewi am yr wybodaeth ddiweddaraf. Crëwch fwyd Cymreig, tynnu llun o dirlun Cymru, lliwio adeilad Cymreig eiconig, chwarae cerddoriaeth Gymreig neu wrando ar gôr Cymreig gwefreiddiol. Mae modd gwneud cymaint i sicrhau bod eich Dydd Gŵyl Dewi yn 2021 yn un i’w gofio!
Os oes angen ragor o ysbrydoliaeth arnoch chi, dyma ychydig o fusnesau lleol a allai eich helpu chi i deimlo awydd Dydd Gŵyl Dewi.
Casa Mia Mediterranean Restaurant, Caerffili
Rhyddhewch flas Cymru gyda bwydlen Dydd Gŵyl Dewi o ansawdd uchel i dynnu dŵr o’ch dannedd. Ar ddydd Mercher 3 Mawrth, bydd bruschetta cenhinen a chaws Caerffili a chawl cig oen, yn ogystal â selsig Morgannwg a selsig ‘Welsh Dragon’ ar gael. Er mwyn archebu bwyd a gweld y fwydlen ‘Welsh Selection Specials’ llawn, ewch i www.casamiacaerphilly.co.uk neu ddilyn ‘Casa Mia Restaurant Caerphilly’ ar Facebook ac Instragram.
Welsh Gifts with Heart
Maen nhw’n gwerthu amrywiaeth eang o anrhegion a chofroddion o Gymru ar-lein, gan gynnwys llwyau caru, anrhegion llechen, gemwaith a theganau; mae anrhegion Dydd Gŵyl Dewi hyfryd ar gael ar gyfer eich anwyliaid. Mae cynhyrchion tartan Cymreig newydd bellach ar gael hefyd! Ewch i Welsh Gifts with Heart ar www.giftswithheart.co.uk neu eu dilyn nhw ar Facebook am ragor o wybodaeth.
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon a Datblygu Celfyddydau Caerffili
Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi gyda thîm celfyddydau creadigol Cyngor Caerffili. Tynnwch lun, lliwio, creu collage neu gerflunio cenhinen Bedr neu ddraig a’i roi yn eich ffenestr ar Ddydd Gŵyl Dewi. Dewch â llawenydd Cymru i strydoedd Caerffili. Rhannwch eich creadigaethau ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #DyddGwylDewiCaerffili #StDavidsDayCaerphilly
Bu’r Gwasanaeth Celfyddydau yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Lles Integredig i drefnu sesiwn canu rhithwir. Ymunwch â detholiad o grwpiau canu a chorau lleol i ganu Calon Lan ar Ddydd Gŵyl Dewi. Mae’r ffrwd byw yn dechrau am 6pm ar 1 Mawrth. Dilynwch www.facebook.com/cwtshcymru ar gyfer y ffrwd byw, a Caerphilly Arts Development (Datblygu Celfyddydau Caerffili) ar Facebook am ragor o wybodaeth.
Y Galeri Caerffili
Mae gan Y Galeri addurniadau ceramig o Fenywod Cymreig mewn stoc am anrheg arbennig iawn o Gymru. Wedi’u creu â llaw yng Nghaerffili, mae pob un yn unigryw ac yn sefyll rhwng tua 16cm ac 18cm o uchder. £20 yr un gan gynnwys gwasanaeth dosbarthu gydag opsiwn am dag enw wedi’i bersonoli Os ydych chi’n chwilio am ddarn buddsoddi gwych, mae’r menywod Cymreig wedi’u creu drwy ddefnyddio dull tanio ‘raku’ gan Jane Malvisi, seramegydd, hefyd ar gael. Mae’r gost yn amrywio o £180 i £200 ac mae modd casglu o’r galeri yn unig.
Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili yn cynnig y cyfle i bobl ifanc dan 25 oed ennill e-daleb gwerth £20 yn gyfnewid am greadigrwydd a ysbrydolwyd gan Gymru! Cyflwynwch lun o’ch celfwaith Cymreig, sgiliau coginio neu chi yn gwisgo rhywbeth sy’n dathlu diwylliant Cymru i gymryd rhan yn y raffl am ddim. Dilynwch ‘Caerphilly Youth Service’ (Gwasanaeth Ieuenctid Cymraeg) ar Facebook am wybodaeth lawn.

Essential information