Busnesau Coed Duon yn dod â hud y Nadolig i’r Stryd Fawr

  Cyhoeddwyd: 17 Rhagfyr, 2025
  Amser darllen: 2m

Roedd Stryd Fawr Coed Duon yn llawn hwyl yr ŵyl wrth i fusnesau lleol arddangos eu creadigrwydd yng Nghystadleuaeth Addurno Ffenestri y Nadolig flynyddol y Cyngor yng nghanol y dref.

Mae’r elusen Growing Space wedi’i choroni’n enillydd cystadleuaeth 2025, gan greu argraff ar y beirniaid gydag harddangosfa fywiog sy’n dangos gweithdy Siôn Corn prysur!

Mae Growing Space yn elusen a gafodd ei sefydlu ym 1992, sy’n cynorthwyo unigolion â salwch meddwl, awtistiaeth neu anabledd dysgu i fagu hyder, datblygu sgiliau cymdeithasol a gwella ansawdd bywyd drwy ddarparu hyfforddiant therapiwtig, sgiliau galwedigaethol, creadigrwydd a phrofiad gwaith ledled eu safleoedd yng Ngwent.

A hithau wedi’i lleoli yn 199 Y Stryd Fawr, fe wnaeth siop menter gymdeithasol Growing Space agor yng Nghoed Duon ym mis Tachwedd 2020 ac mae’n tynnu sylw at greadigrwydd a thalentau cyfranogwyr ar draws eu prosiectau Growing Space. Mae Lynn Mears yn rheoli’r siop, sy’n cynnig amrywiaeth eang o nwyddau anrhegion unigryw, eitemau wedi’u gwneud â llaw a’u huwchgylchu, a nwyddau cartref.

Ar ôl cael gwybod bod Growing Space wedi cael ei dewis fel enillydd Coed Duon, dywedodd Lynn:

“Mae’n wych bod ysbrydoliaeth a chynllunio’r tîm o staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr dan sylw wedi cael eu cydnabod. Rydyn ni’n elusen fach sy’n gwerthfawrogi pawb rydyn ni’n eu cynorthwyo ac rydyn ni’n rhoi cyfle iddyn nhw ddod yn rhan o’r tîm yn ein siop a thrwy greu eitemau i’w gwerthu. Mae hyn yn rhoi ymdeimlad aruthrol o falchder a hunan-werth i bawb. Rydw i’n edrych ymlaen at rannu’r newyddion gyda phawb yn ystod yr wythnos.”

Hefyd yn cael sylw am eu hymdrechion oedd Woolleys Florist, yn 118 Y Stryd Fawr, a gafodd y wobr Canmoliaeth Uchel am yr ail flwyddyn yn olynol, ynghyd ag enillwyr y llynedd, Kismet Blackwood, yn 5 The Pier, Hall Street, a gafodd ganmoliaeth uchel unwaith eto am eu cais.

Llongyfarchiadau i Lynn a’i holl staff a gwirfoddolwyr yn Growing Space, ynghyd â’r holl fusnesau a gymerodd ran yng nghanol y dref, am ddod â hwyl yr ŵyl a chreadigrwydd i Goed Duon y Nadolig hwn!