Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi mwy o groeso nag erioed o’r blaen!

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn prysur ddod yn un o gyrchfannau twristiaeth gorau Cymru. Gydag amrywiaeth eang o weithgareddau, atyniadau a llety, mae’r Fwrdeistref Sirol yn cynnig profiad helaeth a deniadol i ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn.

Coedwig Cwmcarn yw un o brif atyniadau’r ardal, ond, mae digonedd o fusnesau newydd yn dod i’r amlwg ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae Morbitorium yn amgueddfa ryfeddodau fach sydd wedi tyfu wrth droed Coedwig Cwmcarn. Mae Tŷ Coppi Adventures and Alpacas yn fusnes teuluol, antur awyr agored, cymharol newydd yng nghyffiniau Coed Duon; mae’n cynnig gweithgareddau – gan gynnwys dringo creigiau, e-feicio, cerdded ceunentydd a theithio trwy geunentydd – a gallwch chi, hyd yn oed, aros dros nos mewn llety hunanarlwyo 4-seren. Yn ogystal, anghofiwch fynd â’r ci am dro, mae’r perl cudd hwn yn cynnig rhywbeth llawer mwy diddorol – mynd ag alpaca am dro! Pam lai?!

Mae’r cwmni arobryn, Escape Blackwood Limited, ym Mhontllan-fraith, a VR Experience Wales, yn Abercarn, yn cynnig rhywbeth gwahanol ar gyfer y diwrnodau pan fydd hi’n bwrw glaw, gan ysgogi’r meddwl a’r rhinweddau cystadleuol. Ar gyrion canol tref Caerffili mae The Meadows, sydd wedi arallgyfeirio ac ehangu’n gyflym ac sydd, bellach, yn cynnig diwrnod allan gwych i’r teulu. Mae hefyd doreth o fusnesau lleol sy’n cynnig teithiau marchogaeth, profiadau golff, bwyd, diod, a llawer mwy!
Fel cyrchfan i ymwelwyr, ac er mwyn cynnal y diwydiant ac apêl gynyddol y gweithgareddau a’r atyniadau hyn, mae cael dewis eang o lety o’r pwys mwyaf i’w lwyddiant. Mae’r galw yn amlwg ac, wrth i entrepreneuriaid weld y bwlch hollbwysig yn y farchnad, bu rhai datblygiadau ac ychwanegiadau gwych i’r ddarpariaeth lety yn yr ardal.

Mae The Junction Inn, sydd newydd gael ei ailwampio, yn sefyll yn agos i orsaf drenau Hengoed, ac mae’n cynnig 4 ystafell wely en suite ac yn gweini bwyd o’r safon uchaf yn y bar. Mae’n cyd-fynd â’r thema rheilffordd, ond, erbyn hyn, mae’n cynnig llawer mwy, yn ogystal â mynediad uniongyrchol i Gaerdydd i’r rhai sydd eisiau crwydro’r brifddinas. Meddai’r perchennog, Yvonne Ingram, “Y syniad cychwynnol oedd datblygu ar sail y nodweddion a oedd yn bresennol yn yr adeilad a chreu lle deniadol, sy’n ystyriol o deuluoedd, gyda lle bwyta o’r safon uchaf. Roedd angen i’r ddarpariaeth lety fod yr un mor boblogaidd er mwyn sicrhau ein bod ni’n denu masnach dwristiaeth, ac rwy’n credu ei bod hi’n deg dweud ein bod ni wedi cyflawni’r ddau nod.”

Mae Castell Cottages, yng Nghaerffili, wedi bod yn brysur hefyd, a bron wedi cwblhau pum fflat gwyliau newydd y tu cefn i’r llety hunanarlwyo, gyda’r bwriad i ailagor yn yr haf. Fe wnaeth Y Fan, neu Blasty’r Fan yn ôl yr enw lleol, ac sydd hefyd ar gyrion canol tref Caerffili, agor ei ddrysau ar ddiwedd 2020 yn dilyn ei brynu yn 2017. Cafodd y plasty Tuduraidd rhestredig Gradd II ei adfer yn sylweddol i safon uchel iawn, ac nawr yn falch o groesawu ymwelwyr i aros dros nos eto, yn ogystal â chroesawu gwesteion i gael diodydd yn y bar trwyddedig neu fwynhau te prynhawn blasus.

Yn ddiweddar, fe wnaeth Under the Oak Glamping, ym Medwas, gael cyllid gan Lywodraeth Cymru i adeiladu uned newydd ar y safle glampio. Mae ‘Cartref’ yn gerbyd trên wedi’i addasu, ac mae’n sefyll mewn man sy’n manteisio i’r eithaf ar y golygfeydd godidog. Meddai’r perchnogion, Lydia a Richard, “Mae Cartref yn llafur cariad go iawn i ni – fe wnaethon ni ein hunain y rhan fwyaf o’r gwaith.” Medden nhw wedyn, “Er nad yw’r flwyddyn diwethaf wedi bod yn hawdd – gyda’r cyfyngiadau’n atal ymwelwyr rhag dod i’n safle hardd – rydyn ni wedi defnyddio’r amser yn ddoeth ac wedi datblygu’r safle, a’r arlwy, i sicrhau bod modd i ni aros ar agor drwy gydol y flwyddyn.”

A hithau’n sefyll yng Nghwm Ebwy, mae Coedwig Cwmcarn yn gartref i chwe chaban moethus, newydd. Mae’r cabanau, sydd wedi’u dodrefnu’n llawn a’u haddurno i safon uchel iawn, â lle i hyd at chwe pherson, ac maen nhw’n ategu’r podiau glampio poblogaidd, yn ogystal â’r lleiniau carafanau a phebyll. Naws fwy gwladaidd sydd ar gael gerllaw, yn Woodlands Log Cabin & Teepee Holidays – yn ddiweddar, mae vardo Romanaidd wedi cael ei ychwanegu i’r arlwy ac, ar hyn o bryd, mae vardo pen crwm/agored 80 oed yn cael ei adfer. Ac yntau yng nghanol y coetir, mae’n cynnig noson fwy gwirioneddol i ffwrdd o foethusrwydd y cartref, tra bod yr arlwy traddodiadol ar gael hefyd ar ffurf y caban pren a’r tipi.

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn rhoi mwy o groeso nag erioed o’r blaen wrth iddi edrych ymlaen at dymor hollbwysig yr haf. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy a dilyn Croeso Caerffili ar Facebook. Mae canllawiau a chyfyngiadau’r llywodraeth yn berthnasol, felly, holwch y darparwr perthnasol yn uniongyrchol cyn teithio.

Essential information

CTA Member