‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ – parhau i fwyta’n lleol a chefnogi ein diwydiant lletygarwc

Mae detholiad o aelodau Cymdeithas Twristiaeth Caerffili yn parhau i gynnig bargeinion ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ yn dilyn llwyddiant y cynllun a ariannwyd gan y Llywodraeth drwy gydol mis Awst.

Dywedodd Alex Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Siop Goffi C37 yn Ystrad Mynach, “Gan fod y cynllun bwyta allan yn llwyddiant ysgubol, roedden ni’n meddwl y bydden ni’n ei ymestyn a chynnig cymaint ag y gallen ni i sicrhau bod cwsmeriaid yn cadw dod.”

Roedd y cynllun, a ddaeth i ben ar 31 Awst, yn cynnig i aelodau’r cyhoedd 50% oddi ar eu bil bwyd hyd at £10 y pen. Roedd ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ yn llwyddiant ysgubol ledled y Deyrnas Unedig gyfan gan annog ymwelwyr yn ôl i’n canolfannau lletygarwch a thwristiaeth gyda’r Llywodraeth yn ad-dalu’r gostyngiad yn eu refeniw. Roedd y mannau eistedd dan do mewn lleoliadau a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun yn bennaf yn llawn i’r capasiti a ganiatawyd o ddydd Llun i ddydd Mercher drwy gydol mis Awst, gyda chwsmeriaid yn cael eu troi i ffwrdd.

Dywedodd Ryan ac Emma, perchnogion bwyty Bistro 8 yng Nghoed Duon, “Rydyn ni’n ymestyn y Cynnig Bwyta Allan i Helpu Allan gan fod pob bwrdd wedi’i gadw drwy gydol mis Awst o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf, ac roedd llawer o gwsmeriaid wedi colli allan. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am holl gefnogaeth y cwsmeriaid hyd yn hyn, felly rydyn ni’n gwneud hyn o’n poced ni, wrth i ni edrych ymlaen at groesawu llawer mwy o gwsmeriaid drwy ein drysau ym mis Medi.”

Gan fod misoedd yr hydref wedi cyrraedd a gyda’r golau dydd hir yn dod yn atgof pell, mae meddwl am aros i mewn a chwtsio yn y gwres yn demtasiwn. Wel, arhoswch am funud! Mae nifer o fwytai, tafarndai a chaffis ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi creu cynigion arbennig newydd drwy gydol mis Medi i annog pobl i fwyta allan a chefnogi busnesau lletygarwch lleol. Gyda’r mesurau iechyd a diogelwch cywir ar waith, gan gynnwys mesurau cadw pellter cymdeithasol llym, mae lleoliadau’n awyddus i groesawu ymwelwyr yn ddiogel.

Dyma rai o’r cynigion arbennig sydd ar gael drwy gydol mis Medi. Gweler gwefan visitcaerphilly.com/cy i gael rhagor o gynigion arbennig wrth iddynt gael eu hychwanegu.

· Bistro 8, Coed Duon – 25% oddi ar yr holl fwyd a diodydd meddal hyd at uchafswm o £10 y pen o ddydd Llun i ddydd Mercher. Ewch i https://bistro-8.com i gadw bwrdd.

· Brewers Lodge, Coed Duon – 25% oddi ar eitemau bwydlen y bar, gan gynnwys prydau arbennig y dydd a phwdinau o ddydd Llun i ddydd Mercher. Ffoniwch 01495 230240 i gadw bwrdd.

· Gwesty a bwyty The Rock, Coed Duon – Talu am brif gwrs amser cinio neu gyda’r nos a chael cwrs cyntaf neu bwdin yn hollol rad ac am ddim o ddydd Llun i ddydd Mercher. Ffoniwch 01495 223441 i gadw bwrdd.

· Bryn Meadows – Bwyty Blas, Maes-y-cwmwr – Cael 20% oddi ar eich bil bwyd a mwynhau cinio 3 chwrs am £16 y pen, pryd o fwyd 3 chwrs gyda’r nos am £20 y pen neu de prynhawn am £15 y pen. Mae pob cynnig yn ddilys o ddydd Llun i ddydd Mercher ar amseroedd penodol drwy gydol y dydd. Ffoniwch 01495 225590 neu e-bostio reservations@brynmeadows.co.uk i gadw bwrdd. Ewch i www.brynmeadows.co.uk am ragor o wybodaeth.

· C37, Ystrad Mynach – 25% oddi ar brydau o fwyd, te prynhawn, diodydd meddal a chacennau o ddydd Llun i ddydd Mercher. Ewch i dudalen Facebook C37 i gadw bwrdd.

· Tony’s Café & Pizzeria, Crosskeys – 25% oddi ar bob pryd o fwyd o ddydd Mawrth i ddydd Iau ac eithrio diodydd alcoholaidd a meddal. Ffoniwch 01495 272800 i gadw bwrdd.

· Gwesty’r Lord Nelson, Pontlotyn – Bwydlen prynu un a chael un am hanner pris 5.30pm tan 7.30pm rhwng 7 Medi a 30 Medi, ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig; mae’r pryd o fwyd rhataf yn hanner pris. Ffoniwch 01685 841228.

· Maenordy Llancaiach Fawr, Nelson – Gostyngiad o 10% yn y caffi gan ddechrau ddydd Mawrth 8 Medi tan ddiwedd mis Medi. Ffoniwch 01443 412248.

Ydynt, ond dim ond gyda phobl sy’n byw gyda chi y gallwch fwyta ac yfed dan do. Mae’n drosedd cwrdd â rhywun o’r tu allan i’ch aelwyd yn fwriadol yn unrhyw rai o’r lleoliadau hyn (dan do). Mae rheolau llym o ran sut y caniateir i leoliadau lletygarwch fel y rhain weithredu. Fodd bynnag, os na chaiff y rheolau hyn eu dilyn neu os bydd pobl yn parhau i gwrdd â phobl eraill nad ydynt yn rhan o’u haelwyd, efallai y bydd yn rhaid i’r lleoliadau gau.

https://llyw.cymru/

 

Essential information