Mwynhewch ddetholiad o goffi, diodydd, cacennau neu brydau blasus, pob un ohonynt yn lleol a Masnach Deg lle bo modd.
P’un a ydych yn ddringwr sydd angen bwyd a diod, cerddwr cŵn, beiciwr, yn lleol i barc Taf Bargod neu deulu sy’n ymweld â’r ganolfan weithgareddau am y dydd, mae’n sicr yn werth ymweld â’n caffi. Rydym yn gaffi cyfeillgar i deuluoedd a chŵn ac mae croeso mawr i esgidiau mwdlyd.
Ar gyfer y plant iau mae gennym bellach ardal chwarae awyr agored ar eu cyfer! Gan mai hen bwll glo oedd yn safle gynt, mae ein man chwarae awyr agored ar thema mwyngloddio. Gyda blwch gwisgo i fyny mwyngloddio, sleidiau, pwlïau, bwcedi a rhwydi llwythi mae digon i’w diddanu. A’r peth gorau, mae’r ardal chwarae yng ngardd y caffi fel y gallwch gadw llygad ar y plant wrth fwynhau coffi a chacen!
10:30 am – 8:00 pm yn ystod yr wythnos 10:00 am – 5:00 pm ar benwythnosau a gwyliau banc. Nodwch fod y gwasanaeth bwyd yn gorffen 30 munud cyn cau.