Dewiswch EICH Stryd Fawr y Nadolig hwn

Dydd Sadwrn 28 Tachwedd – Dydd Iau 24 Rhagfyr 2020

Mae Tîm Digwyddiadau a Marchnata Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn edrych am ddulliau i hybu masnach yng nghanol ein trefi y gaeaf hwn.

Gyda’r Nadolig ar y gorwel a COVID-19 yn rhoi straen ar gynifer o fusnesau, dyma’r amser delfrydol i ganolbwyntio ar annog pobl i siopa’n lleol y gaeaf hwn.

Fel y gwyddoch mae’n debyg, nid oes Marchnadoedd Nadolig na Ffeiriau Gaeaf yn cael eu cynnal gan Gyngor Caerffili eleni oherwydd COVID-19, fodd bynnag, rydyn ni’n awyddus i ddenu ymwelwyr i ganol ein trefi a helpu i gryfhau’r negeseuon o‘Siopa’n Lleol’ ’ and ‘Siopa’n Ddiogel’.

Nod ymgyrch‘Dewis EICH Stryd Fawr y Nadolig hwn’2020 yw cynorthwyo manwerthwyr i ddod â phrofiad siopa Marchnad y Nadolig i’n cymuned. Rydyn ni am annog trigolion i archwilio pob un o’n 6 chanol tref allweddol (Bargod, Coed Duon, Caerffili, Trecelyn, Rhisga ac Ystrad Mynach) a darganfod y dewis gwych o fanwerthwyr annibynnol unigryw ac enwau mawr sy’n addurno ein strydoedd mawr lleol.

Gadewch inni annog ein trigolion i Siopa’n Lleol, Siopa’n Ddiogel a Dewis EICH Stryd Fawr y gaeaf hwn!

Bydd tudalen we ddynodedig yn ogystal â digwyddiad Facebook, wedi’i gynnal gan y Cyngor a Visit Caerphilly, gyda’r nod o fynd ati i hyrwyddo’r ymgyrch. Mae gan y ddau gyfrif Facebook yma dros 37,000 o ddilynwyr – Dyma’r ddolen – https://www.facebook.com/events/318706686101015

Er mwyn creu ymgyrch ddiddorol a gafaelgar rydyn ni’n chwilio am gymysgedd o gynigion ar-lein ac yn y siopau i’w gwneud yn gynhwysol i bawb, p’un a ydynt yn siopa ar-lein neu yng nghanol ein trefi.

Mae AM DDIM i gymryd rhan yn y cynllun a bydd yn rhedeg o Ddydd Sadwrn 28 Tachwedd i Ddydd Iau 24 Rhagfyr 2020. Mae’r ymgyrch ar gael i bob busnes canol tref – o gaffis a bwytai i drinwyr gwallt a siopau adwerthu cyffredinol gan gynnwys siopau cadwyn ac annibynnol.

Mae tystiolaeth bod busnesau sy’n cyflwyno cynigion cryf yn gweld y nifer uchaf o dalebau yn cael eu hadbrynu. Mae enghreifftiau o sut y gallai taleb weithio yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i: gostyngiad ar ffurf canran oddi ar yr holl gynhyrchion, gostyngiad ar ffurf canran oddi ar linell gynnyrch benodol, gostyngiad ar ffurf canran pan fyddwch chi’n gwario swm penodol, rhodd am ddim pan fydd swm penodol yn cael ei wario neu gynnig o brynu un a chael un am ddim.

Os hoffech chi fod yn rhan o’r ymgyrch hon, postiwch eich cynigion arbennig yn uniongyrchol i dudalen digwyddiadau Facebook ‘Dewiswch EICH Stryd Fawr y Nadolig hwn’. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n cymryd rhan yn yr ymgyrch hon, a’i gweld fel neges gadarnhaol i’r gymuned leol, wrth geisio helpu busnesau lleol.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Digwyddiadau a Marchnata: 01443 866390 digwyddiadau@caerffili.gov.uk