Ydych chi’n caru Ffotograffiaeth? Ar hyn o bryd rydym yn edrych am ddelwedd syfrdanol newydd o Gastell eiconig Caerffili i’w arddangos ar glawr blaen ein Canllaw i Ymwelwyr Caerffili 2020.
I gystadlu, rhowch eich llun isod, neu tagiwch ni ar Twitter neu Instagram @VisitCaerphilly.
Nid yn unig y bydd yr enillydd lwcus yn cael y ddelwedd wedi’i argraffu ar glawr blaen ein canllaw newydd (Sydd yn cael ei ddosbarthu ynNe Orllewin Lloegr, Canolbarth Lloegr a choridor yr M4), byddant hefyd yn ennill Aelodaeth Blynyddol Cadw a phryd i 2 ym Mwyty a Bar Coctel Casa Mia.
Mae amodau a thelerau yn berthnasol
Telerau ac Amodau
1. Y dyddiad cau yw hanner nos ar ddydd Sul 5fed Ionawr 2020; cyhoeddir yr enillydd gan y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth 7eg Ionawr 2020.
2. Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy dudalen Facebook, Twitter neu Instagram Ymweld a Chaerffili.
3. Rhaid i’r holl luniau gael eu derbyn erbyn yr amser cau ar y dyddiad yr hysbysebwyd.
4. Rhaid i’r ddelwedd fod yn 5mb i’w ddefnyddio ar y canllaw i ymwelwyr.
5. Rhaid i’r holl ddelweddau a gyflwynir fod yn waith yr unigolyn sy’n eu cyflwyno ac ni ddylent fod wedi cael eu cyhoeddi mewn man arall neu wedi ennill gwobr mewn unrhyw gystadleuaeth ffotograffig arall. Cyfrifoldeb pob ymgeisydd yw sicrhau bod unrhyw ddelweddau y maent yn eu cyflwyno wedi’u cymryd gyda chaniatâd y gwrthrych ac nad ydynt yn torri hawlfraint unrhyw drydydd parti nac unrhyw gyfreithiau. Rhaid i ymgeiswyr warantu mai’r ffotograff y maent yn ei gyflwyno yw eu gwaith eu hunain a’u bod yn berchen ar yr hawlfraint.
6. Bydd y gwobrau fel y’u disgrifir yn cael eu hanfon drwy’r post at yr enillydd. Nid yw’r wobr yn drosglwyddadwy ac nid oes unrhyw ddewisiadau ariannol amgen.
7. Drwy gystadlu yn y gystadleuaeth mae’r enillydd yn rhoi defnydd o’r ddelwedd i Groeso Caerffili/Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer pob defnydd a chyhoeddiad yn y cyfryngau yn y dyfodol.
8. Cyhoeddir yr enillydd drwy Facebook, Twitter a Instagram.
9. Mae Croeso Caerffili yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw lun yn y gystadleuaeth ar unrhyw adeg.
10. Mae Croeso Caerffili yn cadw’r hawl i dynnu ‘Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Castell Caerffili’ yn ei hôl ar unrhyw adeg
11. Defnyddiwch daleb Casa Mia erbyn 01.04.2020