Dewis Lleol – Abercarn RFC

Clwb Rygbi Abercarn

Mae Clwb Rygbi Abercarn yn glwb Undeb Rygbi Cymru sydd wedi’i leoli yn Abercarn. Ac yntau wedi’i sefydlu dros 100 mlynedd yn ôl, mae gan Glwb Rygbi Abercarn hanes hir, gan gynnig llawer iawn o wybodaeth a phrofiad i chwaraewyr addawol ac awyddus.

Mae Clwb Rygbi Abercarn yn lle gwych i chwaraewyr rygbi dyfu hefyd, gan ei fod yn un o glybiau bwydo Dreigiau Casnewydd Gwent. Os ydych chi’n ystyried ymaelodi, beth am siarad ag aelod o’r pwyllgor neu aelod o’r tîm hyfforddi?

Mae presenoldeb gweithredol ar-lein yn golygu ei bod hi’n hawdd dod o hyd i ffyrdd o gefnogi’ch clwb lleol. Ewch draw i’r cyfryngau cymdeithasol neu’r wefan – gallwch chi hyd yn oed ymaelodi yn hawdd ar-lein hefyd!

Ar ôl cyfnodau anodd o gyfyngiadau symud, mae’r clwb rygbi lleol hwn yn edrych ymlaen at groesawu gwylwyr ac aelodau, hen a newydd, yn ôl i’r gemau ac i’r clwb ar ei newydd wedd.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member