Dewis Lleol – Castell Cottages

Castell Cottages

Castell Cottages yw eich cartref oddi cartref, gyda thri chartref gwyliau hunanarlwyo 3 seren wedi’u hachredu gan Croeso Cymru ac wedi’u lleoli yng Nghaerffili. Mae’r busnes, sy’n cael ei redeg yn lleol, yn anelu at groesawu a darparu cartrefi gwyliau cyfforddus i Fwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Tŷ Gwynant yn gartref pâr ac yn cynnwys cegin cynllun agored modern, ystafell fwyta a lle byw, gyda’r holl gyfleusterau modern i sicrhau arhosiad cyfforddus. Gyda lle i hyd at 5 o bobl i gysgu, mae’r llety gwyliau hwn hefyd mewn lleoliad gwych – o fewn pellter cerdded i amwynderau lleol a Chastell Caerffili.

Mae fflatiau Van Road yn cynnwys fflatiau llawr gwaelod a llawr cyntaf gyda digon o le yn y ddau ar gyfer hyd at 4 o westeion i gysgu. Mae’r fflatiau o safon fodern ac yn cynnwys yr holl gyfleusterau modern i sicrhau arhosiad cyfforddus. O fewn pellter cerdded i ganol tref Caerffili a Chastell Caerffili, mae’r fflatiau hyn yn wych ar gyfer cyplau a theuluoedd fel ei gilydd.

Yn 2021, ychwanegodd Castell Cottages ardaloedd awyr agored gyda gasebos, gwresogyddion a byrddau derw.  Yn 2022, maen nhw bron â chwblhau fflatiau newydd yng nghanol Caerffili a fydd yn cynnwys ystafell gemau gymunedol mewn ymgais i ennill achrediad 5 seren Croeso Cymru.

Am gynigion arbennig ac argaeledd, gallwch chi ddod o hyd i Castell Cottages yn www.castellcottages.com.

Essential information

Website
Social Media
Castell Cottages
CTA Member