Four Seasons Catering
Os ydych chi’n chwilio am rywun i arlwyo ar gyfer digwyddiad, cyfarfod busnes neu fwyty sydd i ddod, mae Four Seasons Catering yma i chi.
Wedi’i leoli ym Margod, mae Four Seasons Catering yn eiddo i Clive D-Angelo-Smith a’i dîm o gogyddion gorau. Gyda thîm o 15, mae Four Seasons Catering yn gallu cynorthwyo eu cwsmeriaid nhw gydag unrhyw fath o arlwyo, waeth beth fo’u maint!
Wedi’i agor yn 2019, ar ôl gyrfa hir a sefydledig Clive yn y diwydiant bwytai, mae Four Seasons Catering yn tyfu ar gyfradd gyffrous. Nid yn unig y maen nhw wedi tyfu i fod yn dîm mawr, ond ymunodd Four Seasons Catering â dau leoliad i gynnig eu prydau blasus, rhostiau dydd Sul a the prynhawn.
Yn The Aber Sports & Social Club Ltd yn Abertridwr, mae un o’r bwytai newydd cyffrous – “Four Seasons at The Aber”. Yn sgil y fenter gyffrous hon, cafodd bar/lolfa ar ei newydd wedd ei gwblhau ac agorodd Four Seasons Catering i’r cyhoedd, gan weini prydau blasus bob dydd.
Woodlake Park Golf & Country Club ym Mhont-y-pŵl yw’r bartneriaeth ddiweddaraf gyda Four Seasons Catering. Bydd y fwydlen unigryw yn cynnwys te prynhawn, themâu, bwffes priodas a phrydau a chinio dydd Sul.
Yn cynnig arlwyo blasus ar gyfer pob digwyddiad ac achlysur, mae Four Seasons Catering yn bendant yn un i’w ystyried! O de prynhawn i charcuterie a byrddau caws Cymreig – mae yna opsiwn ar y fwydlen i gyd-fynd â’ch gofynion pen-blwydd, priodas, bedydd neu barti swper chi.
Edrychwch ar yr opsiynau ar y fwydlen a gwybodaeth gyswllt ar eu gwefan neu lwyfannau cymdeithasol nhw: