Dewis Lleol – Gellihaf House

Gellihaf House

Mae Gellihaf House yn drysor cudd, hardd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae Catherine a Howard, sy’n berchen ar yr eiddo ac yn ei reoli, yn ymfalchïo mewn darparu profiad Cymreig o safon.

Gyda’i diroedd hardd a’i ystafelloedd wedi’u haddurno’n rhyfeddol, mae’r gwely a brecwast bwtîc hwn yn rhoi profiad moethus i chi yng nghanol y Fwrdeistref Sirol. Gall gwesteion fwynhau’r tiroedd gwych neu archebu te prynhawn gydag amrywiaeth o ‘patisseries’ a chacennau cartref wedi’u gwneud gan ddefnyddio cynhwysion lleol lle bynnag y bo modd.

Mae’r eiddo’n llawn hanes gyda llawer o nodweddion gwreiddiol y mae Catherine a Howard wedi’u hadfer yn gariadus dros 2 flynedd o adnewyddu ac addurno, a lwyddodd i roi bywyd newydd i’r tŷ.    

Mae yna lawer o gynlluniau i ehangu Gellihaf House gan gynnwys darparu cyfleusterau ar gyfer priodasau a digwyddiadau preifat.

Mae Catherine a Howard yn credu y dylai eu gwesteion nhw brofi amser heddychlon a di-straen yn ystod eu gwyliau ac na ddylen nhw fod eisiau dim. Mae’r argyhoeddiad hwnnw’n sail i ethos a rheolaeth Gellihaf House, lle y byddwch chi’n dwlu arno a’i fwynhau a lle y byddwch chi’n sicr yn dychwelyd iddo.

Beth am drefnu ymweliad neu ffonio i drefnu digwyddiad preifat – http://www.gellihafhouse.co.uk/

Essential information

Website
Social Media
Facebook
Gwefan
CTA Member