Dewis Lleol – The Furniture Revival

The Furniture Revival 

 

Mae The Furniture Revival yn cynnig dewis eang o ddodrefn ac eitemau trydanol o safon i drigolion y Fwrdeistref Sirol am gost isel – sy’n eich galluogi chi i ddodrefnu eich cartref neu swyddfa ddelfrydol am gost y gallwch chi ei fforddio!

Wedi’i leoli yn Rhymni, mae The Furniture Revival yn gweithredu un o ganolfannau dodrefn ail-law mwyaf Cymru ac mae wedi’i sefydlu yn y Fwrdeistref Sirol ers 23 mlynedd! Mae eu canolfan nhw yn Ystâd Ddiwydiannol y Lawnt yn gartref i ddewis eang o ddodrefn fel soffas, matresi, byrddau, peiriannau golchi, tegelli, tostwyr a mwy!

Fel menter gymdeithasol, mae The Furniture Revival yn ganolbwynt gwirfoddoli i’r gymuned ac mae eu tîm nhw’n cynnwys gwirfoddolwyr ffyddlon a medrus, sy’n ymdrechu i greu a chynnig cyfleoedd cyflogaeth i’r gymuned.

Gwasanaeth arall y mae The Furniture Revival yn ei ddarparu yw gwasanaeth casglu dodrefn ac eitemau trydanol am ddim ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful a Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Gallan nhw hefyd gludo dodrefn o’u canolfan nhw i’ch cartref chi.

Mae busnesau lleol hefyd yn gallu gweithio gyda The Furniture Revival er mwyn dodrefn swyddfa, cliriadau, profi dyfeisiau cludadwy (PAT), casglu gwastraff trydanol domestig, swmp-brynu, cyfleoedd cyflogaeth neu, hyd yn oed, defnyddio eu hystafelloedd cyfarfod nhw ar y safle.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu stoc gyfredol nhw neu i roi eich dodrefn chi, edrychwch ar eu gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol nhw.

Essential information

Website
Social Media
Facebook
CTA Member