Dewis Lleol – Tyre Glider

Tyre Glider Ltd

 

Mae’r busnes bach sydd wedi’i enwebu am sawl gwobr Gymreig, Tyre Glider, yn cynnig teclyn chwyldroadol newydd sy’n hanfodol i bob beiciwr.

Ac yntau wedi’i leoli yng Nghaerffili, fe gafodd Tyre Glider ei sefydlu ym mis Rhagfyr 2021 gan Kevin Baker, a’i redeg yn gyfan gwbl ganddo. Fe wnaeth Kevin, sy’n feiciwr brwd, greu’r cwmni gyda’r bwriad i symleiddio’r broses o newid teiar, boed gartref, yn y gwaith neu allan ar y ffordd.

Mae cynnyrch arloesol Tyre Glider wedi dal sylw llawer o gyrff gwobrwyo cenedlaethol, ar ôl cael ei enwebu am sawl gwobr a chyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Cychwyn Busnes – Cymru, yn y categori Busnes Newydd Arloesol.

Gan edrych i’r dyfodol, mae Kevin yn frwd dros ehangu’r dewis o gynnyrch ac, yn ei dro, ehangu’r tîm. Wrth i’r busnes dyfu, mae Kevin yn gobeithio cyflogi rhagor o staff yn ystod y blynyddoedd nesaf.

I gael golwg ar y busnes newydd anhygoel hwn, ewch i wefan Tyre Glider – www.tyreglider.co.uk – neu ddilyn ei daith ar y cyfryngau cymdeithasol – @TyreGlider

Essential information

Website
Social Media
Website
CTA Member