Dewiswch EICH Stryd Fawr y Nadolig hwn

Mae’n tynnu at y Nadolig ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ymuno â busnesau lleol i ddod â’r profiad siopa Nadolig i chi.

O ddydd Sadwrn 28 Tachwedd i ddydd Iau 24 Rhagfyr, gall trigolion siopa’n lleol a siopa’n ddiogel, gydag amrywiaeth o gynigion arbennig unigryw gan fusnesau lleol. Archwiliwch canol pob un o’n trefi allweddol – Bargod, Caerffili, Coed Duon, Rhisga, Trecelyn ac Ystrad Mynach – i ddiwallu eich holl anghenion o ran siopa Nadolig.

Arhoswch yn lleol y Nadolig hwn a darganfod dewis gwych o fanwerthwyr annibynnol unigryw ac enwau mawr yn y stryd fawr leol a’r cyffuniau. Bydd llawer o gynigion arbennig, cystadlaethau a gweithgareddau llawn hwyl yn cael eu cynnal.

Os oes arnoch chi awydd archwilio canol trefi yng nghysur eich cartref, mae hefyd lawer o gynigion ar gael ar-lein er mwyn cynnwys pawb. I’r rhai sy’n teimlo eu bod nhw’n fwy agored i niwed, rydyn ni eisiau cynnig cyfle i siopa’n lleol ar-lein; i’r rhai sy’n ysu am gael mynd allan, rydyn ni eisiau cynnig cynigion bendigedig ar lawr gwlad.

Meddai’r Cynghorydd Sean Morgan, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Economi a Menter: “Ni fu erioed cyfnod pwysicach i gefnogi eich stryd fawr leol. Mae’r Fwrdeistref Sirol yn llawn siopau annibynnol sy’n cynnig amrywiaeth eang o berlau cudd, gwasanaethau a chynhyrchion lleol. Mae’r busnesau hyn wrth wraidd y stryd fawr, a dylem ni eu cefnogi nhw gymaint ag y gallwn ni y Nadolig hwn.”

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y telerau ac amodau a’r cynigion diweddaraf, ewch i dudalen Facebook ‘Visit Caerphilly’ ac ymuno â’r digwyddiad Dewiswch EICH Stryd Fawr y Nadolig hwn rydyn ni wedi’i lansio.

 

Telerau ac amodau:

Noder: Mae’r holl ostyngiadau a chynigion arbennig ar gael o ddydd Sadwrn 28 Tachwedd i ddydd Iau 24 Rhagfyr 2020, gan gynnwys y diwrnodau hynny (oni nodir yn wahanol). Mae pob cynnig yn amodol ar argaeledd. Mae pob cynnig yn amodol ar oriau agor y busnes dan sylw, a’i delerau ac amodau. Mae pob cynnig yn cael ei greu a’i reoli gan y busnes dan sylw. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn hyrwyddo’r cynigion ar ran y busnesau lleol. Mae’r holl fanylion yn gywir adeg eu cyhoeddi. Mae llawer o fanwerthwyr eraill yng nghanol y trefi a’r cyffiniau sydd heb eu cynnwys yn yr ymgyrch hon ac sydd, o bosibl, â chynigion arbennig yn ystod cyfnod yr ymgyrch. Gall unrhyw un neu ragor o’r cynigion newid oherwydd cyfyngiadau COVID-19 yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

You may also be interested in: