Alice in Wonderland yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495227206   BMI@caerphilly.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Lleoliad

Am docynnau, ewch yma!

Mae Immersion Theatre, cwmni sydd wedi cael ei nomineiddio am sawl gwobr, a’r tîm tu ôl i lwyddiant ysgubol y llynedd “The Jungle Book” – yn dod a’u hegni nodweddiadol i’w sioe gerdd deuluol fwyaf, mwyaf doniol a mwyaf ysblennydd hyd yn hyn: Alice in Wonderland! Dilynwch Alice a’r Gwningen Wen wrth iddyn nhw gychwyn ar antur liwgar, wyneb i waered a chwrdd â llu o gymeriadau rhyfedd gan gynnwys Tweedle Dum a Tweedle Dee, Brenhines y Calonnau, y Gath Hapus ac wrth gwrs, yr Hetiwr Hurt! Mae plant ac oedolion fel ei gilydd yn cael eu gwahodd i ymuno yn yr hwyl o weld y stori glasurol hon yn dod yn fyw mewn sioe sy’n llawn comedi, cerddoriaeth, rhyngweithio gyda’r gynulleidfa, a hwyl i’r teulu cyfan! Peidiwch â cholli allan!