Archebwch eich tocynnau yma!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae arfwisg armadilo yn teimlo mewn gwirionedd? Neu wedi meiddio gadael i neidr lithro ychydig fodfeddi yn unig o’ch llaw? Calan Gaeaf hwn, dyma’ch cyfle i ddarganfod… os ydych chi’n ddigon dewr!
- Dydd Mawrth 27ain Hydref
- 11:30am
- £15 y tocyn
Mae eich tocyn yn cynnwys: mynediad i 1 oedolyn ac 1 plentyn, coffi ffres o Two Shot Social, a diod ‘Fruit Shoot’ o’r bar.
Hanner tymor hwn yn Ffos Caerffili, ymunwch ag A&S Animal Encounters ar gyfer profiad cyffrous ac agos gyda phump o greaduriaid arswydus, cropianol ac anhygoel. Dim gwydr, dim rhwystrau – dim ond chi a’r anifeiliaid yn ardal yr ‘undercroft’ yn Ffos.
Dewch i gwrdd â chreaduriaid y nos:
- Meerkat: y gwyliwr ar ddyletswydd, yn cadw llygad am anghenfilod yn y tywyllwch.
- Armadilo: cyffyrddwch ag arfwisg naturiol, a darganfyddwch sut mae’n goroesi’r ysglyfaethwyr sy’n ei hela.
- Madfall ‘Monitor’: dewch wyneb yn wyneb â deinosor byw sydd wedi cropian allan o’r gorffennol.
- Neidr: teimlwch ba mor llyfn yw’r cen – rhywbeth a allai eich synnu – a chwalwch y mythau brawychus unwaith ac am byth.
- Crwban: cyfarfyddwch â chreadur hynafol a allai fyw’n hirach na ni i gyd… a pharhau i fodoli ar gyfer ein gor-or-wyrion a gor-or-wyresau.
Dysgwch o ble maen nhw’n dod, am yr addasiadau anhygoel sy’n eu helpu i oroesi, a’r brwydrau gwirioneddol dros gadwraeth y maen nhw’n eu hwynebu yn y gwyllt heddiw. Yna, pan fydd yr amser yn iawn, cewch gyfle i gwrdd â phob un ohonynt yn ddiogel – os meiddiwch chi!