Cyngerdd Carolau a Gorymdaith Lusernau Cyngor Tref Coed Duon

3 Rhagfyr 2026
  Cyngor Tref Coed Duon, 130-132 High Street, Coed Duon NP12 1AF
  01495 361347   clerk@blackwoodtown.gov.uk   Ewch i'r wefan

Ymunwch â Chyngor Tref Coed Duon am noson hudolus llawn ysbryd cymunedol Nadoligaidd yn y digwyddiad Cyngerdd Carolau a Gorymdaith Lusernau.

Bydd eisiau cwrdd y tu allan i swyddfeydd Cyngor Tref Coed Duon (130–132 Y Stryd Fawr, oddi ar Lôn Grafel, am 6.30pm) gyda’ch llusernau, gan gychwyn gyda’n gilydd ar orymdaith drwy’r dref.

Yn dilyn yr orymdaith, bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn mynd i Eglwys Fethodistaidd Coed Duon, lle bydd croeso cynnes i bawb fwynhau Cyngerdd Carolau traddodiadol yn llawn cerddoriaeth Nadoligaidd a hwyl yr ŵyl, wedyn lluniaeth.

P’un a fyddwch chi’n cario llusern, yn canu eich hoff garolau, neu dim ond yn mwynhau’r awyrgylch, mae hwn yn gyfle gwych i ddathlu’r tymor gyda theulu, ffrindiau a chymdogion.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad