Cystadleuaeth Celf y Nadolig Caerffili 2024
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Llyfrgell Caerffili CF83 1JL

Gwahoddir plant 4-11 oed i ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar sy'n cynnwys canol tref Caerffili mewn rhyw ffordd.
Bydd gwaith un enillydd lwcus yn cael ei droi yn arddangosfa ffenestr Nadolig yn Y Banc yng nghanol tref Caerffili!
Ysgrifennwch eich enw, oedran, cod post, cyfeiriad e-bost cyswllt a rhif ffôn ar gefn eich gwaith, a rhowch eich gwaith i Lyfrgell Caerffili rhwng dydd Gwener 15 Tachwedd a dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024.
Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych yn derbyn y gall y gwaith celf gael ei gyhoeddi a'i ddefnyddio fel arall. I gael gwybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cystadlaethau a Rafflau Mawr ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.