Cystadleuaeth Celf y Nadolig Coed Duon 2024

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Llyfrgell Coed Duon NP12 1AJ

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Tîm Rheoli Canol y Dref

Lleoliad

Dewch i greu golygfa Nadoligaidd ar gyfer Canol Tref Coed Duon!

Mae gwahoddiad i blant ysgolion cynradd ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar sy'n cynnwys Canol Tref Coed Duon mewn rhyw ffordd.

Bydd oriel o waith celf yn cael ei harddangos mewn lleoliad yng nghanol tref Coed Duon. Bydd cyfle hefyd i ymgeiswyr ennill gwobr Nadolig!

Dewch i gasglu ffurflen gais o Lyfrgell Coed Duon neu Sefydliad y Glowyr, Coed Duon rhwng dydd Gwener 22 Tachwedd a dydd Llun 9 Rhagfyr 2024.

Rhaid cyflwyno'ch gwaith celf a'ch ffurflen gais i Lyfrgell Coed Duon erbyn dydd Llun 9 Rhagfyr 2024.

Trwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rydych chi’n cytuno y gall y gwaith celf gael ei gyhoeddi a'i ddefnyddio fel arall. Ni fydd modd dychwelyd eich lluniau. I gael manylion am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, gweler yr Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cystadleuaethau a Rafflau Mawr ar wefan y Cyngor.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.