Dance in the Dark

30 Hydref 2026
  Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495 227206   BMI@caerphilly.gov.uk   Ewch i'r wefan

Archebwch eich tocynnau yma!

Sioe ddawns a cherddoriaeth gyfareddol yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, gyda rhyngweithio hwyliog i blant 3+ oed a theuluoedd.

Gwisgwch eich hoff byjamas ar gyfer parti nos mewn cuddfan enfawr ac antur gyda’r nos i fyd dychymyg chwareus.

Wrth i’r tywyllwch ddisgyn, gadewch i ni gael hwyl wrth i ni baratoi ar gyfer y gwely, chwarae yn y cysgodion brawychus, gwrando ar synau’r nos, a theimlo’r gwynt gwyllt a’r glaw ar ein hwynebau yn y storm.

Byddwn ni’n cwrdd â chreaduriaid cyfeillgar y nos… gwlithod llithrig, gwyfynod gwych a phryfed tân prydferth. Darganfyddwch hud y tywyllwch wrth i ni droelli a throi, dal seren wib a dysgu sut i fod yn ddewr amser gwely.

Yn ôl ar daith yn ôl galw mawr, mae Dance in the Dark gan Sonrisa Arts yn wledd amlsynhwyraidd freuddwydiol, wedi’i chyd-greu gyda phlant a theuluoedd. Mae’r sioe gynhwysol a doniol hon yn cynnwys dawns gyfoes, cerddoriaeth fyw, sain hudolus, arogleuon, a rhyngweithio â’r gynulleidfa.

“Packed with sensory delights” – 5 STAR Review, What’s on, Birmingham

“hits all the right notes with enraptured kids and their adult companions alike” – Culture Bab review

Digwyddiadau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon