Diweddglo Gŵyl Gomedi Caerffili

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Neuadd y Gweithwyr Caerffili, 20 Castle Street, Caerffili CF83 1JL

Archebwch eich tocynnau yma!

Bydd Gŵyl Gomedi Caerffili yn digwydd rhwng dydd Mercher 15 Ebrill a dydd Sadwrn 18 Ebrill ac yn cynnwys Project:Comedy yn The Project ddydd Mercher 15 Ebrill, Comedy Graduation yn Y Banc ddydd Gwener 17 Ebrill a’r diweddglo yn Neuadd y Gweithwyr Caerffili ddydd Sadwrn 18 Ebrill!

Mae’r diweddglo yn cynnwys y prif berfformiwr Leroy Brito (Baby Reindeer, Netflix) ynghyd â Terry Mynott (Motherland, BBC), Tommy Smith (The Glee Club), Steffan Evans (S4C, BBC Sesh) a’r cyflwynydd ar gyfer y noson, Chris Barnes (ITV, BBC Radio Wales).

I gael rhagor o wybodaeth am Ŵyl Gomedi Caerffili, cysylltwch â caerphillycomedyfestival@gmail.com.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad