Ffair Nadolig Fach Caerffili 2026 (sy’n cynnwys Cynnau Goleuadau Nadolig Caerffili, Gorymdaith Llusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt)

20 Tachwedd 2026
  Canol tref Caerffili CF83 1JL
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!

I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Ymunwch â ni ar gyfer Cynnau Goleuadau Nadolig Caerffili yng nghanol tref Caerffili ddydd Gwener 21 Tachwedd!

Mae’r digwyddiad hudolus hwn yn cynnal Gorymdaith Llusernau Afon y Goleuni sy’n dechrau am 6pm ac yn gorffen gydag Arddangosfa Dân Gwyllt am 6:45pm! Gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn mynychu un o Weithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni a gwneud eich llusern eich hun i oleuo’r dref! (Noder: NID yw mynychu’r gweithdai yn ofyniad i gymryd rhan yn yr orymdaith.)


Rhaglen Adloniant

Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.


Map Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni / Gwybodaeth Parcio a Theithio

Bydd Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn cychwyn yn Eglwys Sant Martin, cyn teithio i lawr Heol Caerdydd a Stryd y Castell, gan droi wrth y senotaff i Stryd y Farchnad ac yn ôl i faes parcio’r Twyn.

Parcio

Mae parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Parcio Station Terrace, CF83 1JU (talu ac arddangos)
  • Cyfleuster Parcio a Theithio Caerffili, CF83 1JU (am ddim)
  • Maes Parcio Crescent Road, CF83 1AB (talu ac arddangos)
  • Morrisons / Canolfan Siopa Cwrt y Castell, CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)

❗️ Mae pob un o’r meysydd parcio uchod yn cynnwys mannau parcio i’r anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli Beiciau

Gellir dod o hyd i rheseli beiciau yng ngorsaf drenau Caerffili, ledled Heol Caerdydd, o amgylch y Twyn a thu allan i Morrisons.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili wedi’i lleoli gerllaw safle’r digwyddiad, gyda threnau i ac o Fargoed a Chaerdydd bob 15 munud a threnau i ac o Rhymni bob awr. Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cysylltiadau uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y fwrdeistref. Ewch i https://tfw.wales a https://www.traveline.cymru/ am ragor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.

Gwybodaeth bellach

Lleoliad