Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Gwisgwch yn gynnes a pharatoi ar gyfer tymor y Nadolig wrth Marchnad Nadolig ddod i Ystrad Mynach ar ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr 2026!
Bydd Marchnad Nadolig yn Ystrad Mynach eleni yn dod â fflach y Nadolig i ganol y dref ddydd Sadwrn 7 Tachwedd, a bydd Cyngor Cymuned Gelli-gaer yn cynnal Groto Siôn Corn, felly peidiwch ag anghofio eich rhestr Nadolig chi!
Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.
Bydd ychydig o reidiau ffair i blant bach ar hyd a lled canol y dref, yn ogystal â gwledd o gymeriadau Nadoligaidd yn crwydro safle’r digwyddiad i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd yna hefyd lwyfan cymunedol gyda pherfformiadau Nadoligaidd gan ysgolion, corau, bandiau a chantorion lleol yn helpu cael pawb yn ysbryd y Nadolig.
Yn ogystal â’r stondinau a’r adloniant, mae gan y dref ystod wych o siopau canol tref annibynnol. Cydiwch yn eich bagiau siopa chi a dewch draw i ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd rhwng 9am a 5pm!
Bydd y ffair hefyd yn cynnal seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig hudolus Cyngor Cymuned Gelli-gaer am 5pm.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!
Am ragor o wybodaeth, e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Cymuned Gelli-gaer.
Parcio a Thrafnidiaeth
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Rhaglen Adloniant
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.
Rhestr Stondinau
Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.