Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach 2024
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach CF82 7AB
Ymunwch â'r digwyddiad Facebook swyddogol!
I holi am ofod masnachu a'r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2024! Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf y flwyddyn, byddwn yn mynd i ganol tref Ystrad Mynach ar gyfer ei Ffair Wanwyn flynyddol! Bydd stondinau bwyd a chrefft, detholiad o reidiau ffair hwyl i blant ac adloniant gwych; bydd y dref yn dod yn fyw wrth i dymor y gwanwyn gyrraedd. Os ydych chi'n chwilio am ychydig o oriau allan gyda'r teulu, beth am ddod draw i Ystrad Mynach ac ymuno yn yr hwyl? Mae canol y dref yn cynnig dewis hyfryd o siopau annibynnol ac mae amrywiaeth o leoliadau bwyta allan ledled y dref, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Bedwlwyn Road ac Oakfield Street, Canol Tref Ystrad Mynach, CF82 7AB, lle bydd y ffyrdd ar gau. Mae'r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol.Parcio a Trafnidiaeth
Cliciwch neu daro ar y llun isod i weld fersiwn sgrin lawn o fap parcio cyhoeddus Ffair y Gwanwyn, Ystrad Mynach.
Parcio
Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:- Ysgol Ferched Lewis, CF82 7WW (am ddim)
- Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
- Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
- Aldi, CF82 8AA (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Aldi yn unig)
- Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
- Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
- Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
- Tesco, CF82 7DP
Rhaglen Adloniant

- Cwrdd â Chwningen y Pasg a'i chyfarch
- Alice in Pantoland gyda Gelligaer Community Council yng Nghanolfan Gristnogol Siloh (Mae tocynnau yn £1 wrth y mynediad)
- Adar ysglyfaethus gyda Falconry UK
- Gweithdai crefft
- Anifeiliad egsotig
- Reidiau ffair
- Tatŵs gliter, gliter gŵyl, sesiwn faldodi fach i blant a bwth ffotos gyda TCG Experience - Children's Entertainment Service a Gwenllian Katie Beauty
- Paul Wheelers Punch and Judy Show
- Fferm anwesu gyda Mike's Donkeys
- Paentio wynebau gyda Traceys Funky Faces
Rhestr Stondinau
Wedi'i ddiweddaru: Dydd Mawrth 6 Chwefror 2024
Stondinau Consesiwn
Enw'r busnes | Cynhyrchion/gwasanaethau i'w gwerthu/arddangos |
Cad's Coffee Limited - Really Awesome Coffee - Newbridge | Diodydd poeth - Coffi, ysgytlaethau, bariau o siocled, creision, myffins, a fflapjacs |
Aga Farm Heritage Breeds | Bwyd poeth - byrgyrs |
Signore Twister | Byrbrydau Poeth a Diodydd – tatws troellog, diodydd poeth ac oer |
Dinky Donuts | Byrbrydau Poeth a Diodydd - Dinky Donuts ffres, diodydd poeth ac oer, conau eira |
Fablas Ice Cream Ltd | Hufen iâ – Hufen iâ llaethdy wedi'i wneud â llaw, sydd wedi ennill sawl gwobr |
Stondinau Bwyd, Diod, Chrefft a Wybodaeth
Enw'r Busnes | Cynhyrchion/gwasanaethau i'w gwerthu/arddangos |
Ally's Confectionary | Losin traddodiadol, losin gwreiddiol, candi-fflos a diodydd meddal |
Baker Bears | Teisennau cwpan, brownis, blondis, sgwariau caramel a siocled, 'rocky road', pasteiod cwcis, jareidiau o deisen, lolipops teisen. |
CCBC Mobile Hub | Gwybodaeth a chyngor ar wasanaethau'r Cyngor. |
Crystal Crysalis | Crisialau go iawn ym mhob ffurf, er enghraifft tyrau, cerrig wedi'u treiglo, cerfiadau, sfferau, cylchoedd allweddi, modrwyau ac ati, yn ogystal â ffyn arogldarth a phecynnau anrhegion. |
Fine Food Land Ltd | Olifau, melysyn Twrci, baclafa, cnau |
Forever Fudge | Dros 37 o wahanol fathau o gyffug, taffi pysgnau, nyget, taffi diliau mêl a cheblau licris wedi'u gwneud â llaw |
Gelicious Melts | Toddion cwyr gel – Hyd at 50 o arogleuon, tiwbiau aroglau, llosgwyr toddi cwyr ceramig/trydan |
Gelligaer Community Council | Eitemau hyrwyddo |
Gwent Wildlife Trust | Stondin gwybodaeth elusennol yn hyrwyddo'r Ymddiriedolaeth Natur – gwarchodfeydd natur cyfagos, ein prosiectau lleol, cyfleoedd gwirfoddoli yn ogystal â chynnig aelodaeth i'r rhai sydd â diddordeb. |
Karen’s Bookshop in Partnership with Usborne | Llyfrau plant, jig-sos, gemau bwrdd a chardiau snap Usborne |
Little Grandma's Kitchen | Siytni, ceuled, cyffeithiau, marmalêd, pâst, mwstard a bocsys anrhegion sydd wedi ennill sawl gwobr |
Llangattock Apiaries | Cynnyrch mêl a chŵyr gwenyn |
Mālama Co. | Teganau meddal (morfil, crwban, siarc, cwningen, llwynog, ci, coala), ratlau torri dannedd meddal (cwningen, llwynog, ci, coala), cysurwyr torri dannedd pren silicon (3 lliw), clipiau dymi (8 lliw) |
Mallows Bottling Limited | Alcohol - Bourbon, Gin, Rym, Amaretto, Fodca Taffi |
My Little Pests | Ategolion gwallt a gemwaith i blant - breichledau, mwclis, modrwyau ac ati. |
Nuts About Cinnamon | Cnau â sglein sinamon (cnau daear, pecanau, almonau, cnau cashiw a chnau cyll) |
Pasithea | Lluniau cerrig bychain, calonnau llechi, celf acrylig, olewon naws a llosgwyr olew, conau/ffyn arogldarth, llosgwyr arogldarth, bomiau bath a chanhwyllau wedi'u persawru. |
Plenty Pies | Cig arbennig wedi'i goginio a phasteiod sawrus heb gig |
Rae's Grace Cakes | Cacennau cwpan, cacennau mawr fesul tafell, cacennau hambwrdd, cwcis, brownis |
RNLI | Cwpanau, bocsys bwyd a ffrisbis fel rhoddion ar gyfer cofrestru ar gyfer aelodaeth. Gwybodaeth diogelwch dŵr. |
Royal Air Force Air Cadets | Recriwtio cadetiaid newydd ac oedolion sy'n gwirfoddoli mewn lluoedd cadetiaid: Baneri, taflenni, nwyddau brand Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol (RAFAC) am ddim. Hefyd, codi arian ar gyfer Sgwadron |
SamosaCo | Samosas, bhajis, wyau selsig bhaji winwns, rholiau cebab, picls, siytni, sawsiau |
The House of Bark | Cynhyrchion i gŵn a chathod. Mae'r rhain yn cynnwys powlenni bwydo, teganau, anrhegion, danteithion a danteithion cnoi, dillad, dillad gwely, eitemau teithio, ategolion, cynhyrchion trin gwallt |
The Pattyman | Sawsiau Cymru/Jamaica, marinâd, jeli, enllyn, pasteianau Jamaica, teisennau pasteian |
The Slime Factory | Pecynnau gwneud sleim ac ategolion, gweithdai gwneud sleim |
Truth in a Trailer | Dosbarthu deunydd darllen Cristnogol am ddim a chyfryngau eraill; bagiau siopa am ddim gydag adnod o'r Beibl |
Utility Warehouse | Gwybodaeth ynni |
Williams Brothers Cider | Alcohol - Seidr, perai a sudd afal. |
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau'r Gwanwyn Cyngor Caerffili 2024
Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau Gwanwyn 2024 ni. Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.



Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
