Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni ac Arddangosfa Tân Gwyllt 2024

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Canol Tref Caerffili CF83 1JL
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Tîm Digwyddiadau CBSC

Taliadau

AM DDIM

Lleoliad

Ymunwch yn yr hwyl gyda gorymdaith Nadoligaidd wych yng nghanol tref Caerffili, gydag arddangosfa tân gwyllt ysblennydd yn yr awyr dros Gastell Caerffili i ddilyn ar ddydd Sadwrn 30 Tachwedd. Bydd yr orymdaith arbennig hon, sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i hariannu gan Gyngor Tref Caerffili, yn dechrau yn Ysgol Martin Sant, cyn teithio i lawr Cardiff Road a gorffen ym Maes Parcio’r Twyn! I wneud llusern ar gyfer yr orymdaith, beth am ymweld â’r Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni AM DDIM! Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 16, dydd Sul 17, dydd Sadwrn 23 a dydd Sul 24 Tachwedd. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.

Map yr Orymdaith

Bydd Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yn cychwyn yn Ysgol Sant Martin, cyn teithio i lawr Heol Caerdydd a Stryd y Castell, gan droi wrth y senotaff i Stryd y Farchnad ac yn ôl i faes parcio’r Twyn.

Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau Gaeaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 2024