Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni 2024

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili CF83 1JL
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Tîm Digwyddiadau CBSC

Taliadau

AM DDIM

Lleoliad

Mynediad am ddim! Dim angen cadw lle ymlaen llaw!

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol!

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i'r teulu AM DDIM a dod â'r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Sadwrn 30 Tachwedd. Mae’r gweithdai AM DDIM yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'u hariannu gan Gyngor Tref Caerffili. Bydd y gweithdai'n brofiad braf i'r hen a’r ifanc! Gall plant ddangos eu creadigrwydd nhw a bydd oedolion yn cael cyfle i gael hwyl a chwarae rhan hefyd! Boed yn llusern deuluol neu'n rhywbeth ychydig yn fwy mentrus, bydd digon o bapur crefft a glud i bawb gael creu campwaith! Bydd y gweithdai llusernau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, dydd Sul 17 Tachwedd, dydd Sadwrn 23 Tachwedd a dydd Sul 24 Tachwedd, yn barod ar gyfer yr orymdaith ddydd Sadwrn 30 Tachwedd am 5pm. Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a'i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.