Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Mae Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili, wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol yng nghanol tref Caerffili ers nifer o flynyddoedd ac mae’n cael ei chynnal rhwng 9am a 5pm ddydd Sadwrn 18 Ebrill!
Gall ymwelwyr grwydro drwy’r stondinau niferus o ben Cardiff Road i Faes Parcio’r Twyn, gan fwynhau golygfa ysblennydd Castell Caerffili godidog o’r 13eg ganrif sydd wedi’i leoli wrth galon y digwyddiad!
Mae canol y dref yn cael ei drawsnewid yn farchnad sy’n llawn dop o ddanteithion coginiol; mae’n baradwys i’r rhai sy’n dwlu ar fwyd gyda nifer fawr o stondinau bwyd a diod i demtio blasbwyntiau ymwelwyr gydag aroglau blasus a chynnyrch sy’n tynnu dŵr o’r dannedd.
Mae rhaglen o arddangosiadau coginio wedi’i chynllunio drwy gydol y dydd ac mae’r digwyddiad yn ymuno â’r marchnadoedd misol sefydledig sy’n cael eu cynnal yng nghanol y dref. Mae Marchnad y Crefftwyr yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn, Marchnad Fwyd a Chrefft, Canolfan Siopa Cwrt y Castell, a ffair grefftau ger y Senotaff gan Crafty Legs yn dod â hyd yn oed mwy o amrywiaeth!
Bydd diddanwyr stryd yn crwydro’r ŵyl drwy’r dydd i ddiddanu pawb a bydd detholiad bach o reidiau ffair i blant i ddiddanu’r rhai bach!
Mae gan ganol y dref ddewis hyfryd o siopau annibynnol gyda syniadau ar gyfer anrhegion trawiadol, ac mae hefyd nifer o siopau’r stryd fawr. Mae Caerffili yn cynnig amrywiaeth eang o leoliadau bwyta allan ledled canol y dref, gan gynnwys caffis, bariau a bwytai, felly, #DewisLleol a chefnogi canol eich tref leol chi.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Cardiff Road, Twyn Road, Castle Street (tua’r gogledd yn unig) a maes parcio’r Twyn, lle bydd y ffyrdd ar gau rhwng 9pm nos Wener 17 Ebrill a 9pm nos Sadwrn 18 Ebrill.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.
Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys y rhaglen arddangosiadau coginio, y rhaglen adloniant, stondinau a fydd yn bresennol a’r ffyrdd a fydd ar gau, ewch i wefan Gŵyl Bwyd a Diod, Caerffili.
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau Gwanwyn 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili


