Lle’r Farchnad, Coed Duon
Lle'r Farchnad, Coed Duon NP12 1AU
Dewch draw i Ffos Caerffili ddydd Sadwrn 2 Mai ar gyfer diwrnod o ddathlu cŵn – yn llawn hwyl, blas a chystadlu cyfeillgar. Does dim ots a yw’ch ci bach yn un sy’n denu sylw, yn hoff iawn o fyrbrydau neu’n dwlu ar ddiwrnod allan – bydd rhywbeth at ddant pawb.
Cystadlaethau cyffrous i gŵn, stondinau lleol i’w pori, a rhagor – bydd y diwrnod yn llawn danteithion, teganau a llawer i’w archwilio. Ac, wrth gwrs, bydd nwyddau blasus i gadw cynffonnau i siglo.
A fydd eich ci yn cipio’r teitl Bachgen Gorau neu Ferch Harddaf? Does dim ond un ffordd i gael gwybod.
Dewch â’ch ci, eich ffrindiau a’ch cariad at y rhai â phedair coes – a gwneud diwrnod ohoni.
Drwy’r dydd. 2 Mai. Ffos Caerffili.