Hot House yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495227206   BMI@caerphilly.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Lleoliad

https://youtu.be/Ei2Q4LKOZVU

Prynwch eich tocynnau yma!

Mae’r cwmni o fri rhyngwladol, Richard Chappell Dance yn dod i Sefydliad y Glowyr, Coed Duon y gwanwyn nesaf gyda’u cynhyrchiad diweddaraf Hot House. Mewn ymateb angerddol i’r argyfwng costau byw, mae Hot House yn rhannu’r rhwystredigaeth sy’n cael ei brofi ar hyn o bryd gan lawer, gan droi’r egni dwys hwnnw yn ddathliad pwerus o haelioni ar y cyd. Gan ddarparu rhywle i bobl ddod at ei gilydd a chodi eu calon gan ensemble arbennig o berfformwyr y cwmni, mae’r sioe newydd hon yn cynnwys seinwedd a gafodd ei dylanwadu gan gerddoriaeth glasurol Tsieineaidd, Indiaidd ac Ewropeaidd, wedi’i haildrefnu a’i pherfformio gan y feiolinydd Enyuan Khong a’r ddeuawd cerddoriaeth electronig Larch. Ar ôl llwyddiant cynhyrchiad diweddar Richard Chappell Dance Infinite Ways Home, mae Hot House yn noson feiddgar, drawsnewidiol sy’n dathlu llawenydd symud a cherddoriaeth mewn lleoliad lle mae cyngerdd yn cwrdd â choelcerth