Marchnad Nadolig Coed Duon 2026

28 Tachwedd 2026
  Canol tref Coed Duon NP12 1AB
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866500.

Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.

Dewch draw i Ffair y Gaeaf, Coed Duon, ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd i brofi hwyl a chyffro’r Nadolig!

P’un a ydych chi’n dymuno prynu anrheg Nadolig gynnar i chi eich hun neu’n chwilio am anrheg unigryw ar gyfer rhywun arbennig, gallwch grwydro o gwmpas detholiad bendigedig o stondinau bwyd a chrefft, yn ogystal â’r ystod wych o siopau annibynnol a brandiau’r stryd fawr. Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle delfrydol i chi gychwyn ar eich siopa Nadolig chi.

Bydd digonedd o adloniant i’r teulu cyfan gyda dewis eang o reidiau ffair, yn ogystal â chymeriadau stryd a sioeau stryd Nadoligaidd! Bydd Cyngor Tref Coed Duon yn cynorthwyo’r digwyddiad gyda phrif lwyfan dan ei sang gyda grwpiau, dawnswyr a chantorion lleol i chi deimlo ysbryd yr ŵyl.

Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Tref Coed Duon.


Parcio a Thrafnidiaeth

Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.


Rhaglen Adloniant

Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.


Rhestr Stondinau

Ragor o wybodaeth yn dod yn fuan.

Gwybodaeth bellach

Lleoliad