Dewch i Ystrad Mynach am noson hamddenol o siopa a chefnogi’r stryd fawr leol y Nadolig hwn!
Prynwch anrhegion gan fasnachwyr annibynnol bach wrth fwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd gyda’r nos.
- Dydd Iau 11 Rhagfyr 2025
- 5:00pm – 8:00pm
Dyma restr o’r siopau a’r lleoliadau a fydd ar agor tan yn hwyr:
Anrhegion a chardiau Nadolig: Andrew Berry Jewellers, Veg of Evans, Spirit & Soul, Fields of Magnetic Horizon Records, Memories Cards Crafts Gifts, Bluebelles, The Card Shop, St David’s Hospice Care
Bwyd a diod: Cwm Bakery, Big Mo’s Cake Shop on the Corner, Beech Tree Fish Bar, New Ystrad Fish Bar, Greggs
Nwyddau bwyd, dillad a phethau ymolchi: Hedera Clothing, New Foundations, Premier Stores, Londis, Spar, Ystrad Mini Market, Lidl, Tesco,
Nwyddau, gwasanaethau a chyflenwadau: D. Emlyn Lloyd, Acorn Travel, Siop Addurno Cacennau Finishing Touches
Trin gwallt a harddwch: Indulgence Holistic Health & Beauty, Spirit Hair Team, Ruby Rose Hair, Glow Getters, MR Barbers, Natalie’s Believe Beauty, Fatty’s Boys Barbers
Tafarndai a bwytai: Gwesty’r Beech Tree, Clwb Anwleidyddol Ystrad Mynach, Portofino, Bwyty Indiaidd New Viceroy, Ye Olde Royal Oak
Bwytai tecawê: Erhan’s Charcoal Grill, Fireaway Pizza, Flavors of India, Pak Sing House, Lucky Valley, Chicken & Pizza Land, Golden Gate, Pizza Bites
A Ffair Nadolig dan do AM DDIM yn TownSq London House, yn cynnwys crefftau, cacennau a bwydydd wedi’u pobi, anrhegion, gwin cynnes a mins peis am ddim
A dewch i siopa gyda New Foundations y tu allan i’w horiau arferol rhwng 4-8pm a chael eich cynnwys mewn raffl i ennill £50 i’w wario ar unrhyw beth!
Parcio a Theithio
Parcio
Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:
- Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
- Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
- Lidl, CF82 8AA (am ddim am 1.5 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Lidl yn unig)
Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Gwasanaethau trenau
Mae Gorsaf Drenau Ystrad Mynach o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad ac mae’n gwasanaethu teithwyr sy’n teithio i’r lleoliadau canlynol ac ohonyn nhw:
• Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
• Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
• Caerdydd (bob oddeutu 10-20 munud)
• Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
Gwiriwch wefan Trafnidiaeth Cymru am amserlenni trenau.
❗️Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Rheseli Beic
Gellir dod o hyd i raciau beic yn:
- Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
- Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
- Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
- Tesco, CF82 7DP