
Dewch draw am dro o gwmpas Castell Caerffili, a’i ffos dywyll ddwfn!
Byddwch yn ymwybodol, mae llawer o’r teithiau hyn yn yr awyr agored, ac mae’r teithiau cerdded yn croesi llwybrau allanol amrywiol, a byddant yn cael eu cynnal ym mhob tywydd.
Bydd y ddaear yn anwastad mewn mannau – felly mae’n hanfodol gwisgo dillad priodol, yn enwedig esgidiau priodol.
Bydd agweddau mewnol y daith yn cynnwys dringo grisiau canoloesol, serth, troellog i fyny ac i lawr.
Dewch â thortsh hefyd!
Rhaid archebu ar-lein. I archebu, ewch i wefan Cadw.
Yn addas i oedolion yn unig