Owen Money’s Jukebox Heroes Tour 4th & Final yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495227206   BMI@caerphilly.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Lleoliad

Prynwch eich tocynnau yma!

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘Owen Money’s Jukebox Heroes’ yn 2016, ac yna ‘Owen Money’s Jukebox Heroes II’ yn 2018; ynghyd â’r drydedd olyniaeth yn 2021, mae Owen Money yn ôl gyda sioe fyw arall llawn talent sy’n cynnwys cerddoriaeth ei sioeau poblogaidd ar y radio ar y penwythnos ar BBC Cymru; ac wrth gwrs ei steil unigryw o gomedi a ‘Welsh Whit’! Ie, dyna chi, … Jukebox Heroes IV! Fodd bynnag, gyda’r pedwerydd dilyniant daw’r rownd derfynol! I gloi’r gyfres theatr hynod boblogaidd hon sydd wedi gwerthu pob tocyn ar draws theatrau Cymru; unwaith eto byddwn ni’n gweld Owen ar y llwyfan, yng nghwmni ei fand gwych, dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr Ian Kimber; a fydd yn cyfeilio i rai teyrngedau syfrdanol i rai o eiconau’r byd cerddorol. Yn cyfeilio i Owen a’i fand mae merched ‘Like ABBA’ a fydd yn adfywio caneuon poblogaidd y grŵp enwog, fel yr un addas iawn ‘Money, Money, Money’ … Mae synau digamsyniol ac eiconig Phil Collins yn cael eu clonio gan lais syfrdanol James Alexander… Believe! Byddwch chi’n cael eich swyno wrth i Katie Mittell oleuo’r llwyfan mewn teyrnged fel dim arall i’r eicon sydd wedi ennill Gwobr Grammy, sef Cher… Yn olaf, sut allech chi gael cyfres Jukebox Heroes heb dalu teyrnged i gyfnod Roc a Rôl y Wurlitzers! Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu wrth i Darren Graceland Jones bortreadu ‘ffigur mwyaf eiconig yr 20fed ganrif’, Brenin Roc a Rôl … Elvis Presley!